Pysgotwr anghyfreithlon o’r Tywi i dalu £3,000 ar ôl peidio mynychu achos llys
Ar ôl methu â mynychu dau wrandawiad llys, mae dyn o Sir Gaerfyrddin wedi'i gael yn euog o droseddau pysgota yn Llys Ynadon Llanelli ac wedi cael gorchymyn i dalu bron i £3,000 mewn dirwyon a chostau.
Erlynodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) Gavin Davies o 4 Heol Spurrell, Caerfyrddin ar ôl iddo gael ei weld gan Swyddog Gorfodi CNC a Swyddog Heddlu Troseddau Bywyd Gwyllt Heddlu Dyfed Powys yn dal eog llawndwf yn ardal y Wenallt ar yr Afon Tywi, drwy ddefnyddio bachyn pysgota anghyfreithlon ag arno adfachau. Digwyddodd yr hyn ar 17 Medi 2021.
Mae'n ofyniad cyfreithiol yng Nghymru bod unrhyw eogiaid sy'n cael eu dal yn cael eu rhyddhau'n fyw yn ôl i'r afon a bod yn rhaid i bysgotwyr sy'n targedu pysgod mudol fel eogiaid a brithyll môr ddefnyddio bachau nad oes arnynt adfachau.
Roedd Mr Davies, a oedd wedi dal yr eog erbyn i'r swyddogion agosáu, yn ceisio rhoi'r pysgodyn yn ôl i'r afon. Dangosodd arfer dal a rhyddhau gwael iawn, a fyddai wedi cyfrannu at farwolaeth y pysgod pe na bai eisoes wedi marw oherwydd y difrod a achoswyd gan y bachyn anghyfreithlon.
Gwelwyd y pysgodyn yn arnofio i lawr yr afon yn syth ar ôl cael ei ryddhau gan Mr Davies.
Ar ôl i'r eog marw gael ei gasglu o'r afon, gwelodd swyddogion anafiadau angheuol i'r giliau a achoswyd gan y bachyn a ddefnyddiwyd gan Mr Davies. Gorchmynnodd swyddog CNC iddo gael gwared ar y adfachau. Fe wnaeth Mr Davies ddinistrio’r adfachau ar ôl cael gorchymyn gan Swyddog CNC i wneud hynny.
Ni wnaeth Mr Davies unrhyw ymgais i fynychu ei wŷs cyntaf i wrandawiad Llys Ynadon Llanelli ac ni wnaeth unrhyw ymdrech ychwaith i fynychu'r ail wrandawiad a ail-drefnwyd ar ei gyfer ar 22 Ebrill 2022.
Cafodd yr achos ei wneud yn erbyn Mr Davies yn ei absenoldeb, ac fe'i cafwyd yn euog gan Ynadon y llys.
Rhoddodd y llys y dirwy uchaf a oedd ar gael iddynt am y cyhuddiad a dyfarnwyd costau llawn yr ymchwiliad i CNC.
Cyfanswm y ddirwy, y costau a'r gordal dioddefwyr oedd £2,917.91.
Meddai Mark Thomas, Swyddog Gorfodi Pysgodfeydd CNC:
"Mae'r digwyddiad hwn yn astudiaeth achos o sut i beidio â physgota am bysgod mudol fel eogiaid a brithyllod y môr. Roedd Mr Davies yn brofiadol ac yn hyddysg yn yr is-ddeddfau pysgota, ond roedd yn dal i ddefnyddio dull anghyfreithlon yn fwriadol i ddal yr eog. Dangosodd Mr Davies dechneg frawychus o wael wrth geisio rhyddhau'r eog ac ni dangosodd unrhyw barch at les pysgod.
"Mae'n cynrychioli cyfran fach iawn o'r gymuned bysgota yn nalgylch y Tywi, ac rwy'n annog unrhyw un sydd ddim yn siŵr o'r rheolau pysgota, neu o'r arferion gorau o ran defnyddio technegau dal a rhyddhau i ymweld â'n gwefan.
"Mae pob eog unigol sy'n cyrraedd ei welyau silio yn bwysig iawn i ddalgylch yr Afon Tywi ac i'r cymunedau pysgota sy'n ymweld.
"Gall yr eog benywaidd a fu farw oherwydd gweithredoedd Mr Davies fod wedi cyfrannu bron i 5000 o wyau pe bai wedi silio yn rhannau uchaf dalgylch y Tywi. Mae'r wyau coll hyn yn golled bwysig i ddalgylch afon nad yw eisoes yn cyrraedd ei dargedau silio ar gyfer stociau pysgod llwyddiannus yn y dyfodol.
"Hoffwn ddiolch i’r Swyddog Troseddau Bywyd Gwyllt Heddlu Dyfed Powys am ei gymorth parhaus o fewn ein timau gorfodi pysgodfeydd a hefyd wrth erlyn yr achos hwn."
Os gwewch unrhyw weithgaredd amheus neu anghyfreithlon ar ein hafonydd, rhowch wybod i linell gymorth digwyddiadau CNC ar 0300 065 3000.