Gwaith cwympo coed i ailddechrau yng Nghoedwig Afan
Bydd y gwaith o gwympo coed sydd wedi'u heintio â chlefyd llarwydd yn Rhyslyn, Coedwig Afan, yn ailddechrau'n fuan gyda chontractwr newydd.
Disgwylir i'r gwaith ddechrau fuan. Mae'r gwaith hwn yn hanfodol ar gyfer rheoli lledaeniad y clefyd a sicrhau diogelwch y rhai fydd yn ymweld â'r goedwig yn y dyfodol.
O dan Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol Llywodraeth Cymru, mae’n ofynnol yn gyfreithiol cael gwared ar goed llarwydd heintiedig er mwyn arafu lledaeniad clefyd y llarwydd.
Mae'r gwaith wedi wynebu oediadau oherwydd tywydd gwael, argaeledd contractwyr, a'r ffaith bod y contract blaenorol wedi dod i ben.
Mae'n ddealladwy bod yr oediadau hyn wedi achosi rhwystredigaeth yn y gymuned leol ac i ymwelwyr a busnesau.
Mae gwaith cwympo coed sydd eisoes wedi digwydd wedi difrodi ffyrdd a llwybrau’r goedwig, gan greu peryglon diogelwch gyda choed mawr a changhennau ar draws llwybrau. Bydd llwybrau'n cael eu hadfer a seilwaith yn cael ei osod unwaith y bydd gweddill y gwaith cwympo wedi'i gwblhau.
Yn ogystal â'r ymgyrch fawr hon yn Rhyslyn, mae nifer o weithrediadau teneuo coed llai yn digwydd yn Rhyslyn ac ardaloedd eraill o'r goedwig. Mae eu heffaith ar hamdden yn fychan iawn.
Meddai Phil Morgan, Arweinydd Tîm a Rheolwr Tir Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Rydym yn gwerthfawrogi amynedd y gymuned yn ystod y cyfnod heriol hwn. Ein blaenoriaeth yw cwblhau'r gwaith yn ddiogel ac yn effeithlon, gan sicrhau fod pawb yn gallu mwynhau'r goedwig unwaith eto.
Cofiwch gymryd sylw o’r holl ddargyfeiriadau a’r arwyddion sy’n dweud fod llwybrau ar gau er diogelwch ac er mwyn atal oediadau cyn ailagor llwybrau. Gall anwybyddu'r rhain atal gwaith contractwyr ac oedi’r gwaith o ailagor llwybrau."
Wrth aros am y contract newydd, mae gwelliannau wedi’u gwneud i ffyrdd y goedwig, ac mae'r bont droed o Ganolfan Ymwelwyr Afan at Lwybr yr Afon a'r Rheilffordd wedi ailagor.
Er diogelwch, mae rhai dargyfeiriadau ac arwyddion yn nodi fod llwybrau wedi cau mewn grym:
Llwybrau Cerdded o Faes Parcio Rhyslyn
Llwybr Penrhys: Ar gau
Llwybr Glan-yr-afon Rhyslyn: Ar gau
Llwybrau Cerdded o Ganolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan
Llwybr yr Afon a’r Rheilffordd: Ar agor
Llwybr Crib Gyfylchi: Ar gau
Llwybr Hen Ffordd y Plwyf: Ar agor
Llwybrau Beicio Mynydd
Ar agor: Beiciwr Newydd gwyrdd, Y Graith Las, Pen-hydd, Parc Beicio Afan, Lefel White, Llafn a Llwybr Awyrlin.
Ar gau: Beiciwr Newydd glas, W2 Dolen Uchaf a'r Rheilffordd rhwng maes parcio Rhyslyn ac Abercregan.
Er mwyn cael rhagor o fanylion am ddargyfeiriadau llwybrau ewch i’n gwefan, cysylltwch ag ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu ffoniwch 0300 065 3000.
DIWEDD