Ymarfer hyfforddi’n rhoi prawf ar gynllun diogelwch llygredd
Mae ymarfer llygredd ar y cyd wedi’i gynnal mewn porthladd yng Ngwynedd.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau wedi cymryd rhan mewn ymarfer ar y cyd ym Mhorth Penrhyn ger Bangor, i sicrhau bod staff yn barod i ymateb i unrhyw arllwysiad olew posib.
Fe wnaeth swyddogion o'r ddau sefydliad, ar y cyd â staff o Borth Penrhyn ac o borthladdoedd cyfagos, gymryd rhan yn yr arllwysiad olew ffug ddydd Iau, 22 Medi, er mwyn sicrhau parodrwydd yr ymateb lleol ac i brofi Cynllun Wrth Gefn Porth Penrhyn ar gyfer Arllwysiadau Olew.
Trefnwyd yr ymarfer gan Borth Penrhyn drwy ei gontractwr ar gyfer ymateb i ddigwyddiadau, Adler and Allen.
Yn ystod yr ymarfer, deliodd staff â gollyngiad ffug ac roedd yr ymatebion yn cynnwys cyfyngu a chael gwared ar y llygredd, diogelwch pobl sy'n gweithio o fewn awdurdodaeth Awdurdod y Porthladd ac amddiffyn safleoedd amgylcheddol sensitif ac ardaloedd poblog cyfagos.
Dywedodd Nicola Davies, Swyddog Gwrth-lygredd ac Achub Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau:
"Rydym wedi ymrwymo i foroedd glanach - bydd ymarfer llygredd hanfodol fel yr un yma'n helpu i gyflawni hynny.
"Mae'n bwysig sicrhau bod sefydliadau'n barod i ymateb i lygredd olew a llwyddodd yr ymarfer hwn i sicrhau bod y cynllun lleol yn cael ei brofi.
"Rhoddwyd prawf ar y cynllun gyda rhaglen o ymarferion realistig, oedd wedi'i theilwra i'r ardal leol ac yn ystyried amodau a fyddai'n effeithio ar senario arllwysiad olew.
"Rhoddodd y profiad hyfforddiant amhrisiadwy, gan helpu i wella sgiliau unigolion a gwaith tîm, gan sicrhau bod partneriaid allanol yn cael eu hymgorffori'n llawn yn y cynllun ymateb."
Meddai Huw Jones, Arweinydd Tîm Amgylchedd CNC ar gyfer Gogledd-orllewin Cymru:
"Ein rôl ni yw cefnogi a rhoi arweiniad yn ystod yr ymateb ar gyfer digwyddiadau fel y rhain pan fyddan nhw'n digwydd.
"Galluogodd yr ymarfer brys llwyddiannus ym Mhorth Penrhyn i bawb a oedd yn rhan o'r cynllun sicrhau ei fod yn parhau i fod yn effeithiol ac rhoi cyfle ymarferol i ddefnyddio'r camau gofynnol, yn cynnwys defnyddio bwmau amsugno.
"Mae'r math hwn o ymarfer yn rhoi budd aruthrol i bawb gan ei fod yn caniatáu profiad ymarferol o dan senario enghreifftiol fel rhan o'r nod cyffredinol o leihau effeithiau ar yr amgylchedd cyfagos a’i bobl pe bai arllwysiad olew."
Ian Williams, sef Gweinyddwr Porth Penrhyn, oedd y pennaeth ar y safle ar gyfer yr ymarfer. Meddai:
"Trefnwyd yr ymarfer fel ei fod yn cyflwyno perygl posib, nid yn unig i’r porthladd ei hun, ond i’r ardal ehangach sy'n cwmpasu nifer o ardaloedd agored a gwarchodedig ar hyd Afon Menai.
"Mae ymarferion amser real fel y rhain yn amhrisiadwy i'n staff, i brofi ein Cynllun Wrth Gefn ar gyfer Arllwysiadau Olew a gwella ein cysylltiadau rhyng-sefydliadol. Bydd y gweithgaredd trefnedig hwn yn sicr o arwain at ymateb llawer mwy effeithiol i unrhyw sefyllfa go iawn."