Adar sydd o dan fygythiad yn nythu ym maes parcio cwrs golff yn ystod llonyddwch y cyfnod clo
Mae cywion cwtiad torchog – aderyn sydd o dan fygythiad – wedi manteisio ar dawelwch maes parcio cwrs golff yng ngorllewin Cymru, gan ddeor mewn nyth a adeiladwyd yn ystod cyfnod clo’r coronafeirws.
Fe wnaeth yr adar swil, sy’n nythu ar y ddaear, ddodwy eu hwyau ym maes parcio Clwb Golff y Borth ac Ynyslas ddiwedd mis Mehefin.
Mae'r cwtiad torchog yn aderyn hirgoes bach sydd ar y rhestr goch o adar sy’n peri pryder o ran eu cadwraeth. Ei bresenoldeb yn Ynyslas yw un o'r rhesymau y mae ardal Aber Afon Dyfi yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Dywedodd Carol Fielding, Arweinydd Tîm Amgylchedd Ceredigion gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC),
"Mae'r cwtiad torchog yn rhywogaeth sydd o dan fygythiad ac mae angen gwaith cadwraeth gofalus i'w helpu i fagu a ffynnu mewn ardal dwristiaeth boblogaidd.
"Er gwaethaf hyn, mae’r adar wedi dangos pa mor wydn y gall natur fod a pha mor gyflym y gall ffynnu o dan yr amodau cywir.
"Cafodd y nyth ei ddarganfod cyn i rai o'r cyfyngiadau coronafeirws diweddar gael eu codi. Roedd hyn yn fygythiad difrifol i'r nyth a'r adar.
"Rydym yn ddiolchgar iawn i'r clwb golff am ymateb yn gyflym ac yn gadarnhaol drwy gau hanner ei faes parcio i roi'r lle sydd ei angen ar y cywion a'u rhieni i ffynnu."
Dim ond i ddodwy a deor eu hwyau y mae cwtiaid torchog yn defnyddio’u nyth, ac maent yn symud i'r traeth yn yr oriau ar ôl i'r cywion ddeor. Galluogodd yr ymddygiad hwn i'r clwb golff ailagor y maes parcio cyfan yn fuan ar ôl hynny.
Dywedodd Athole Marshall o Glwb Golff y Borth ac Ynyslas,
"Mae bywyd gwyllt bendigedig y Borth ac Ynyslas yn atyniad mawr i ymwelwyr â'r ardal.
"Pan ddysgon ni fod adar sydd o dan fygythiad wedi ymgartrefu dros dro yn ein maes parcio, roeddem yn hapus i weithio gyda CNC i'w gwarchod. Fe wnaethon ni ynysu rhan o’r maes parcio i roi lle iddyn nhw nes roedden nhw'n barod i symud ymlaen."
Gan fod pobl a chŵn yn tarfu'n hawdd ar yr adar, mae CNC yn gofyn i bobl roi lle i'r adar os ydynt yn eu gweld ar y traeth ac i gadw cŵn ar dennyn.
Fe wnaeth un pâr fagu yn yr ardal yn 2018 a llwyddodd dau bâr i fagu pump o gywion yn 2019.
Mae o leiaf pedwar pâr wedi magu yn 2020 ac efallai y bydd nifer o gywion wedi deor erbyn diwedd y tymor.
Mae hyn yn argoeli'n dda ar gyfer y dyfodol gan fod cwtiaid torchog yn aml yn dychwelyd i'r un ardal bob blwyddyn i fagu, sy'n golygu bod poblogaeth leol gref yn dechrau ffurfio yn dilyn gwaith cadwraeth CNC dros y ddwy flynedd ddiwethaf.