Uchafbwynt blynyddol ar nyth gweilch-y-pysgod Llyn Clywedog wrth i’r cywion gael eu modrwyo

Cywion Gweilch-y-Pysgod yn gael eu modrwyo

Mewn carreg filltir cadwraeth sylweddol, cafodd tri chyw gweilch eu modrwyo'n llwyddiannus ar nyth Llyn Clywedog yng Nghoedwig Hafren ar 20 Mehefin, gan ychwanegu at lwyddiant cynyddol y nyth a ddiogelir gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Defnyddiodd swyddogion arbenigol CNC lwyfan gwaith uchel symudol i gasglu’r cywion o'u nyth yn ofalus, gan ddod â nhw i'r llawr i gael eu pwyso, pennu eu rhyw a'u modrwyo. Bydd nawr modd adnabod y cywion gan y modrwyon glas sydd â’r rhifau 8B3, 8B4, a 8B5, wrth iddynt aeddfedu a mudo.

Credir bod y tri chyw yn wrywaidd. Roedd 8B3 ac 8B4 yn pwyso 1.4kg ac 8B5 yn pwyso 1.2kg. Deorodd y tri rhwng 20 a 24 Mai 2024.

Mae hyn yn nodi cam llwyddiannus arall i nyth gweilch Llyn Clywedog, sydd wedi gweld 22 o gywion yn ffoi’r nyth ac yn mudo ers ei sefydlu yn 2014. Mae'r nyth, a adeiladwyd gan staff CNC ar lwyfan uchel mewn coeden Sbriws Sitka, wedi profi i fod yn amgylchedd delfrydol i'r adar mudol hyn.

Trwy adnabod modrwyau, mae’n hysbys bod y gwalch benywaidd breswyl ar nyth Llyn Clywedog yn treulio ei gaeafau yng Nghors Tanji yn y Gambia, Gorllewin Affrica, cyn gwneud y daith hir yn ôl i Goedwig Hafren i fagu cywion.

Rhannodd John Williams, Swyddog Cymorth Technegol Rheoli Tir CNC, ei gyffro:

"Mae hwn yn gyfnod arbennig o'r tymor. Mae gweld y cywion hyn yn agos yn fraint brin, ac mae gwybod bod ein hymdrechion yn helpu i dracio eu teithiau anhygoel yn hynod o werth chweil.
"Mae modrwyo yn amhrisiadwy ar gyfer deall ble mae'r gweilch yn mynd ar ôl iddyn nhw adael y nyth, ac ar gyfer asesu iechyd y cywion pan yn ifanc. Er bod y broses yn achosi straen i’r cywion a’r rhieni, rydym yn sicrhau ein bod yn gweithio'n gyflym, yn ofalus ac i gymryd camau i leihau eu gofid. Mae'r cywion yn ôl ar y nyth ac yn hapus eu byd unwaith eto ym mhen dim amser."

Mae ffrwd byw o weilch Llyn Clywedog ar gael ar YouTube trwy chwilio am " Llyn Clywedog Ospreys" neu drwy ddefnyddio'r dolenni canlynol:

Ychwanegodd John,

"Rydym yn annog pobl i ddilyn y ffrwd byw a gweld yr adar rhyfeddol hyn yn eu cynefin naturiol. Mae gwylio'r ffrwd byw yn cynnig cyfle unigryw i weld bywydau dyddiol gweilch a dysgu mwy am yr adar rhyfeddol hyn."