Gwaith diogelwch wedi’i gwblhau ar Ynys Sgomer
Yn ddiweddar fe wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) oruchwylio cyflawniad gwaith sefydlogi’r graig ar Ynys Sgomer yn sgil pryderon iechyd a diogelwch.
Fe fethodd rhan o wyneb y clogwyn uwchlaw’r ramp derbyn nwyddau yn 2021. Roedd y deunydd ansefydlog yn peri risg i staff yr ynys wrth iddynt dderbyn nwyddau ac roedd yn rhwystro cwch yr ynys rhag cael ei ddefnyddio.
Er bod yr ynys ar brydles i Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, fel y landlord CNC sy’n gyfrifol am rai mathau o waith strwythurol y mae angen eu gwneud ar yr ynys.
Defnyddiwyd contractwr arbenigol i wneud y gwaith i sefydlogi’r graig, a oedd yn cynnwys bolltau craig a netin.
Mae Ynys Sgomer yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac yn gartref i nifer o adar prin, gan gynnwys Aderyn Drycin Manaw. Golygai hyn bod yn rhaid cyflawni’r gwaith o dan amodau cydsynio llym ar gyfer SoDdGAu a chyn dechrau tymor nythu adar.
Er mwyn sicrhau y byddai’r gwaith yn cael ei gwblhau mewn pryd, darparodd yr Ymddiriedolaeth Natur lety i’r contractwr ar yr ynys. Golygai hyn hefyd nad oedd angen teithio bob dydd gyda’r cwch, ac na fyddai oedi yn sgil tywydd garw.
Meddai Huwel Manley, rheolwr gweithrediadau ar gyfer CNC:
“Mae sicrhau bod amgylcheddau naturiol Cymru yn ddiogel i bobl a’r ecosystemau maen nhw’n eu cynnal yn un o gonglfeini ein gwaith.
“Er y bu peth oedi yn sgil y stormydd diweddar, gorffennwyd y gwaith sefydlogi cyn i’r adar ddychwelyd i’w tyllau ar gyfer y tymor nythu, ac mae’r prif fan ar gyfer cludo nwyddau yn ddiogel unwaith eto i staff ac ymwelwyr sy’n glanio o gychod preifat”.
“Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru ac i gwmni Colin Jones Rock Engineering Ltd am eu help yn cyflawni’r gwaith ac rydym yn edrych ymlaen at haf prysur arall yn Sgomer eleni, ble mae ymwelwyr â’r ynys yn chwarae rôl hanfodol yn cefnogi’r economi leol”.
Ychwanegodd Lisa Morgan, Pennaeth Ynysoedd a’r Môr ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Natur:
“Mae’r lanfa ar draeth North Haven ar Sgomer yn hanfodol ar gyfer sicrhau bod gweithrediadau dydd-i-ddydd yn ddiogel ac effeithlon. Mae’n caniatáu i dryc dympio’r ynys gyfarfod â chychod sy’n cludo nwyddau mawr neu drwm, popeth o ddeunyddiau adeiladu a photeli nwy i nwyddau siopa ar gyfer y staff a’r ymchwilwyr sy’n byw ar yr ynys. Heb fan glanio diogel, ni fyddem wedi gallu lansio cwch yr ynys i’r dŵr, a fyddai wedi peri risg i’n prosiectau hirdymor i fonitro adar y môr.
Nid yw gweithio ar yr ynys byth yn hawdd am fod y lleoliad anghysbell a’r amodau tywydd yn peri heriau logistaidd. Rydym yn arbennig o ddiolchgar i CNC am ariannu a rheoli’r prosiect cymhleth hwn o dan amodau llym ac amserlen dynn.”
Cwblhawyd y gwaith ar wyneb y clogwyn ddiwedd mis Mawrth gan gostio tua £74,000.