Mae dyluniad Rolls-Royce SMR yn symud ymlaen i gam nesaf yr Asesiad Dyluniad Generig
Heddiw, cyhoeddodd y Swyddfa Rheoleiddio Niwclear (ONR, sef Office for Nuclear Regulation), Asiantaeth yr Amgylchedd a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) eu bod yn symud i gam nesaf eu hasesiad o ddyluniad Adweithydd Modiwlar Bach (SMR, sef Small Modular Reactor) 470 MW Rolls-Royce SMR Ltd.
Mae'r broses, a elwir yn Asesiad Dyluniad Generig (GDA, sef Generic Design Assessment), yn galluogi'r rheoleiddwyr i ddechrau asesu agweddau diogelwch ac amgylcheddol ar ddyluniadau adweithyddion newydd cyn i gynigion safle-benodol gael eu cyflwyno.
Dechreuodd Cam 1 y GDA ym mis Ebrill 2022 ac mae’r cam hwnnw bellach wedi’i gwblhau’n llwyddiannus yn dilyn gwaith paratoi gan Rolls-Royce SMR Ltd a’r rheoleiddwyr.
Mae heddiw hefyd yn nodi dechrau Cam 2, y disgwylir iddo bara 16 mis.
Mae Cam 1 wedi cynnwys cytuno ar gwmpas y GDA, sydd wedi’i seilio ar wybodaeth a ddarparwyd gan Rolls-Royce SMR Ltd i’r ONR, Asiantaeth yr Amgylchedd a CNC, fel y gall y rheoleiddwyr gynnal asesiad ystyrlon o’r dyluniad.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Rolls-Royce SMR Ltd wedi cwblhau'r holl ofynion ar gyfer Cam 1 o ganllawiau'r rheolyddion, a gwnaed cynnydd da wrth ddatblygu ei drefniadaeth a threfniadau i gefnogi GDA.
Mae Rolls-Royce SMR Ltd bellach wedi lansio proses sylwadau ar ei wefan newydd, sy'n galluogi unrhyw un i gyflwyno sylwadau a chwestiynau am ddyluniad yr adweithydd i'r cwmni i gael ei ymateb.
Bydd materion perthnasol a godwyd yn ystod y broses sylwadau, ac ymatebion Rolls-Royce SMR Ltd i’r materion hyn, yn cael eu defnyddio i helpu i lywio asesiadau’r rheoleiddwyr drwy weddill y broses GDA.
Dywedodd Rob Exley, Pennaeth Asesu Dyluniad Generig yr ONR:
“Diben GDA yw penderfynu a yw’r dyluniad yn bodloni ein mesurau diogelwch cadarn a’n safonau o ran diogelu’r amgylchedd ym Mhrydain Fawr.
“Rydym yn cydweithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd a CNC i sicrhau bod Rolls-Royce SMR Ltd yn deall ein disgwyliadau rheoleiddio ar gyfer ei gynllun adweithydd arfaethedig, ac yn eu bodloni.
“Fel rheoleiddwyr niwclear, gwyddwn ein bod yn gweithredu er budd y cyhoedd ac, felly, bydd y cyfnod craffu hwn yn agored, yn dryloyw ac yn darparu cyfleoedd rheolaidd ar gyfer ymgysylltu ystyrlon â phartïon â diddordeb drwy gydol proses y GDA.
“Mae’r ONR yn fodlon bod gan Rolls-Royce SMR Ltd drefniadau digonol i gefnogi’r GDA. Rydym wedi cytuno ar gwmpas priodol ar gyfer y GDA, ac mae'r cwmni wedi darparu amserlen gyflwyno briodol ar ei gyfer a threfn ac adnoddau er mwyn ei gyflawni.
“Fel rheoleiddwyr, gallwn nawr ddechrau ein cyfnod asesu technegol.
“Yn seiliedig ar ein gwaith yn ystod Cam 1, gall y cynllun Rolls-Royce SMR generig symud ymlaen i Gam 2 y GDA.”
Dywedodd Andrew Pynn, Arweinydd Strategaeth a Pholisi Asiantaeth yr Amgylchedd ar gyfer GDA Rolls-Royce SMR:
“Rydym yn asesu pa mor dderbyniol yn amgylcheddol yw dyluniad adweithydd newydd gan Rolls-Royce SMR Ltd. Bydd ein tîm o aseswyr arbenigol yn nodi unrhyw faterion neu bryderon sydd gennym gyda'r dyluniad, a byddant yn gweithio gyda'r cwmni i wneud yn siŵr ei fod yn deall ein disgwyliadau i sicrhau bod cymunedau a'r amgylchedd yn cael eu diogelu.
“Mae GDA yn ddull effeithlon; mae’n helpu i sicrhau y bydd gorsafoedd ynni niwclear newydd yn bodloni safonau uchel o ran diogelwch, o ran diogelu’r amgylchedd, ac o ran rheoli gwastraff.
“Yn ystod Cam 1 rydym wedi astudio trefniadau, cynlluniau a pharodrwydd y cwmni ar gyfer Cam 2 ac wedi dysgu mwy am ddyluniad yr adweithydd. Yn ein datganiad Cam 1 rydym wedi crynhoi’r hyn rydym wedi edrych arno ac wedi dod i’r casgliad y gallwn symud ymlaen i Gam 2 y GDA, lle byddwn yn dechrau ein hasesiad sylfaenol.
“Mae ymgysylltu â’r cyhoedd a rhanddeiliaid yn bwysig i ni. Rydym yn annog pobl i gymryd rhan yn y broses sylwadau, sy’n dechrau heddiw, drwy adolygu’r wybodaeth ar wefan y cwmni a darparu eich sylwadau, sy’n cael eu gweld gan y rheoleiddwyr.
“Byddwn yn ymgysylltu’n barhaus â rhanddeiliaid a’r cyhoedd a byddwn yn cynnal ymgynghoriad wrth i ni gamu drwy’r broses reoleiddio.”
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn rhan o broses y GDA a bydd yn arwain ar ymgysylltu â phobl yng Nghymru.
Dywedodd Paul Gibson, Arweinydd Tîm Polisi Ymbelydredd a Diwydiant Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Rydym yn gweithio’n agos gydag Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Swyddfa Rheoleiddio Niwclear fel rhan o’r broses i bennu pa mor dderbyniol yw dyluniad SMR Rolls-Royce, y gellid o bosibl ei leoli yng Nghymru.”
Mae proses y GDA yn canolbwyntio ar ddyluniad gorsaf ynni niwclear generig ac nid yw'n benodol i safle.
Mae'r broses yn systematig ac yn cynnwys nifer o gamau, gyda'r asesiad yn mynd yn fwyfwy manwl wrth i'r broses ddatblygu.
Bydd Cadarnhad o Dderbyn Dyluniad (DAC, sef Design Acceptance Confirmation) neu Ddatganiad o Dderbynioldeb Dyluniad (SoDA, sef Statement of Design Acceptability) gan yr ONR a'r rheoleiddwyr amgylcheddol, yn y drefn honno, yn cael eu cyhoeddi ar ddiwedd Cam 3 o'r GDA, a hynny, wrth gwrs, dim ond os yw'r dyluniad yn bodloni'r mesurau diogelwch cadarn a’r safonau uchel o ran diogelu’r amgylchedd a rheoli gwastraff a ddisgwylir gan ein fframweithiau rheoleiddio.
Nid yw’r dyfarniadau rheoleiddiol hyn yn gwarantu o gwbl y caiff trwydded safle na chaniatâd dilynol ei roi o dan amodau trwydded safle ar gyfer adeiladu gorsaf bŵer yn seiliedig ar ddyluniad SMR Rolls-Royce ar safle penodol ym Mhrydain Fawr.
I gael mwy o wybodaeth, darllenwch ddatganiad Cam 1 yr ONR a'r adroddiad crynodeb cam un llawn, a datganiad ar y cyd Diwedd Cam 1 y rheoleiddwyr amgylcheddol, Asiantaeth yr Amgylchedd a Chyfoeth Naturiol Cymru.