Gwaith diogelwch cronfa ddŵr ger llyn hardd yn Eryri
Mae gwaith diogelwch a gwella wedi cael ei wneud ar un o lynnoedd Eryri.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi bod wrthi’n gwneud gwaith atgyweirio a chynnal a chadw yn Llyn Llywelyn, ger Beddgelert, Gwynedd, er mwyn sicrhau ei ddiogelwch o dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975.
Roedd y gwaith hwn yn cynnwys gosod strwythur gorlifan newydd, atgyweiriadau i'r arglawdd i leihau gollyngiadau, darparu cyfleuster tynnu dŵr er mwyn gallu gostwng lefelau dŵr mewn argyfwng a gwelliannau cyffredinol i’r grib a'r arglawdd, gan gynnwys llwybr troed newydd.
Mae nant sy’n llifo o Lyn Llywelyn yn mynd drwy Goedwig Beddgelert cyn cydgyfarfod ag Afon Cwm Du ac Afon Colwyn ac mae ganddi gapasiti o 14,200,000 litr.
Meddai Rob Flitter, Arweinydd Tîm Cyflawni Prosiectau a Rhaglenni Gogledd Orllewin Cymru CNC:
“Mae’r ardal o amgylch Llyn Llywelyn yn darparu ystod eang o weithgareddau hamdden gan gynnwys cerdded a beicio ac mae’n rhoi mwynhad i drigolion lleol ac ymwelwyr.
“Mae’r gwaith hwn wedi sicrhau diogelwch y safle wrth symud ymlaen, gan ei warchod fel ffynhonnell ddŵr a lleihau’r perygl o lifogydd.”
Credir mai William Hughes Civil Engineering oedd yn gyfrifol am y gwaith a wnaed ar y safle a’i fod yn dyddio'n ôl i'r ddeunawfed ganrif.
Mae Llwybr Coedwig Beddgelert yn rhedeg ar draws argae’r gronfa ddŵr ac mae’r ardal yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn.
Mae gwelliannau amgylcheddol a gwaith i wella’r llwybr troed hefyd wedi'u gwneud gan gynnwys ramp mynediad newydd i gerddwyr i'r ardal bicnic a bwrdd picnic newydd ar gyfer cadeiriau olwyn.
Mae ysgol bysgod a llysywod hefyd wedi'i hadeiladu i helpu i symud llysywod a physgod dros orlifan y gronfa ddŵr sydd wedi cael ei gwella.
Meddai Rob:
“Mae’r prosiect hwn yn rhan o’n gwaith ehangach i wneud cymunedau yng Nghymru yn fwy gwydn i wrthsefyll effeithiau newid hinsawdd, i hyrwyddo bioamrywiaeth ac i helpu i ailgysylltu pobl â natur.”