Diogelu ansawdd dŵr afonydd Sir Ddinbych
Mae dalgylch afon yn Sir Ddinbych wedi cael hwb diolch i waith a gwblhawyd i helpu i gyfyngu ar dda byw a gwella ansawdd dŵr i lawr yr afon.
Mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi gweithio’n agos â thirfeddianwyr lleol ar amrywiaeth o waith i atal da byw rhag cael mynediad at Afon Bach yn nalgylch Clwyd. Bydd hyn yn gwella ansawdd dŵr trwy leihau maetholion, gwaddod a gwastraff anifeiliaid rhag cyrraedd y cwrs dŵr.
Roedd yr wyth cynllun yn 2023/24 yn cynnwys gosod dros 5,000 metr o ffensys i atal da byw rhag mynd i mewn i’r dŵr. Hefyd gosodwyd 27 cafn dŵr a systemau dyfrio newydd fel ffynonellau dŵr amgen.
Roedd y cynlluniau hefyd yn cynnwys plannu 115 metr o wrychoedd i helpu i atal stoc rhag mynd i’r cwrs dŵr. Bydd hyn hefyd yn cynyddu bioamrywiaeth ac yn cynnig cysgod i dda byw.
Roedd y gwaith hefyd yn cynnwys dadflocio pedwar cwlfer, gosod 6 metr o lan coediog newydd ac adfer dau bwll.
Ariannwyd y gwaith gan Raglen Cyfalaf Dŵr Llywodraeth Cymru.
Y flwyddyn ariannol hon mae CNC wedi ymrwymo i wario £15m drwy’r Rhaglen Cyfalaf Dŵr, sy’n cefnogi nifer o flaenoriaethau amgylcheddol gan gynnwys adfer afonydd, lliniaru effeithiau mwyngloddiau metel, pysgodfeydd ac ansawdd dŵr.
Meddai Bev Dyer, Uwch Swyddog Pobl a Lleoedd, CNC:
“Mae’r gwaith hwn yn hwb amserol i Afon Bach a’r dalgylch ehangach. Mae dalgylch Clwyd yn dioddef oherwydd problemau ffosffad a maethynnau ac mae poblogaethau pysgod yn parhau i ddirywio.
“Gall caniatáu mynediad anghyfyngedig i dda byw i afonydd effeithio ar iechyd cyffredinol yr amgylchedd dŵr a’u gallu i gynnal cymunedau iach o blanhigion, anifeiliaid a phobl.
“Erbyn hyn mae dros 13,000m2 o dir ar lannau’r afon yn cael ei warchod o’r newydd - a fydd yn helpu i wella ansawdd dŵr i lawr yr afon ar draethau dŵr ymdrochi dynodedig Y Rhyl.”
“Mae gweithio gyda sefydliadau eraill trwy Fforwm Clwyd yn caniatáu inni flaenoriaethu a chydlynu meysydd targed ar gyfer cyflawni canlyniadau amgylcheddol. Ochr yn ochr â gweithio gyda ffermwyr lleol, mae hyn yn caniatáu inni wella’r amgylchedd gyda’n gilydd.”