Hwb i gynefinoedd gwarchodedig mynyddoedd y Berwyn

Mae gwaith ar y gweill i gael gwared o gonwydd goresgynnol ar fynyddoedd y Berwyn yn Sir Ddinbych er mwyn helpu i roi hwb i gynefinoedd prin a gwarchodedig.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi arwain ar gynlluniau i glirio conwydd sydd wedi hunan-hadu ac sy'n gorchuddio bron i 700 hectar (ha) o fewn Safle Diddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) y Berwyn ac Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) ehangach y Berwyn a Mynyddoedd De Clwyd.

Nid yw conwydd fel sbriws Sitka a phinwydd camfrig, yn frodorol i Gymru ac maen nhw’n cael effaith niweidiol gan eu bod yn sychu'r cynefinoedd rhostir sych a’r gorgorsydd o'u cwmpas - dau gynefin a warchodir gan Ewrop.

Mae contractwyr wedi bod yn defnyddio peiriant malu ar draciau i gael gwared ar y conwydd mwyaf a llifiau cadwyn ar goed llai, gyda'r deunydd coed i'w adael i bydru ar y safle.

Mae swyddogion CNC wedi bod yn gweithio'n agos â thirfeddianwyr lleol a chydweithwyr o RSPB Cymru i gyflawni'r gwaith a disgwylir y bydd yn cael ei gwblhau yn 2025. 

Mae ACA Mynyddoedd y Berwyn a De Clwyd yn gorchuddio 27,132ha ac yn cynnwys yr ardal fwyaf o gyforgors a rhostir sych Ewropeaidd yng Nghymru.  Y Berwyn hefyd yw'r ucheldir pwysicaf yng Nghymru o ran adar sy'n bridio ac mae'n cynnal ystod eang o rywogaethau gan gynnwys niferoedd o bwys rhyngwladol o rugieir duon a gylfinirod.

Meddai Bathilda Milton-Haynes, Swyddog Natura 2000 CNC ar gyfer Mynyddoedd y Berwyn:

"Mae'r conwydd sy’n hunan-hadu a geir ar fynyddoedd y Berwyn yn rhywogaeth 'ddangosol negyddol' o ran rheolaeth SoDdGA sydd wedi ei chynllunio i ddiogelu cynefinoedd arbennig yr ardal. Gymaint ag yr hoffem gael coed, mae angen inni gael y goeden gywir yn y lle cywir.
"Wrth i gonwydd dyfu’n fwy, maen nhw wedyn yn dechrau cynhyrchu conau ac yn dod yn broblem sy'n cynyddu'n barhaus, ac felly mae'n hanfodol ein bod ni'n lleihau'r difrod maen nhw'n ei achosi gymaint ag y gallwn.
"Mae cyforgorsydd a rhostir sych yn cynnwys amrywiaeth eang o blanhigion sydd i'w cael yn unig yn yr ardaloedd ucheldirdol hyn sy’n brin eu maethynnau, ac sydd wedi'u haddasu'n arbennig i'r hinsawdd oerach a mwy gwyntog, a phriddoedd mwy asidig. Mae'n bwysig fod rhywogaethau goresgynnol fel conwydd yn dal i beidio ag effeithio ar y rhain, a fyddai’n newid y cydbwysedd ecolegol.
"Mae gwella'r cynefin ar lefel tirwedd yn bwysig i CNC ac i'n cydweithwyr wrth i ni weithio, nid yn unig tuag at gynyddu niferoedd rhywogaethau fel grugieir du, ond hefyd wrth adfer y cydbwysedd hydrolegol a ailwlypháu’r gyforgors.
"Bydd y gwaith hefyd yn helpu i gynnal a thrapio’r storfeydd carbon sy’n cael ei ddal o fewn mawn yr ardal a bydd yn gam bach ond pwysig hefyd wrth fynd i'r afael â'r heriau cynyddol a ddaw yn sgil newid hinsawdd."

Meddai Anya Wicikowski, Swyddog Cadwraeth RSPB Cymru ar gyfer prosiect Adfer Grugieir Duon:

"Rydym yn wynebu argyfwng natur a hinsawdd digynsail. Er mwyn gwrthdroi'r effeithiau hyn, mae'n rhaid i ni sicrhau bod yr ecosystemau sydd gennym o fudd i bobl, i’r hinsawdd ac i natur. 
"Tyfir sbriws Sitka ar ucheldiroedd Cymru ar gyfer cynhyrchu pren, ond mae’r ffaith eu bod yn agos at ein safleoedd gwarchodedig gorau yn golygu mai dyma un o'r ffactorau sy'n niweidio ardaloedd mawndir gwerthfawr fel y Berwyn. Bydd adfer yr ardal hon yn gyforgors a rhostir sych yn caniatáu i natur ffynnu, ac yn cyflwyno llu o fanteision eraill. Mae gweithio mewn partneriaeth ar draws y dirwedd gyfan yn ein galluogi i fod yn fwy effeithlon a chael mwy o ddylanwad. 
"Rydym yn gobeithio parhau â'r gwaith hwn yn y dyfodol i helpu i sicrhau bod ein hardaloedd gwarchodedig gorau yn darparu ar gyfer bioamrywiaeth a hinsawdd fel y rugiar ddu ac adar ysglyfaethus sy'n byw yn y mannau hyn."

Meddai Ms Portia Kennaway, tirfeddiannwr lleol:

"Fel fferm gadwraethwyr organig sydd wedi bod yn gweithio am dros 30 mlynedd rydym yn hynod ddiolchgar i CNC ac RSPB Cymru am y gwaith pwysig iawn y maen nhw wedi'i wneud ar y mynydd, ac rydym wrth ein bodd gyda'r canlyniadau. 
"Mae Bathilda ac Anya wedi cyflawni pethau anhygoel yn y prosiect hwn, ymhell y tu hwnt i'n disgwyliadau, ac mae wedi bod yn bleser gweithio gyda nhw, ac mae pawb sy'n gysylltiedig wedi cydweithio, yn effeithlon ac mewn ffordd hynod o sensitif i wendidau penodol y safle.  Diolch yn arbennig hefyd i Keith Offord, Swyddog Adar Ysglyfaethus yr ardal."