Coetir poblogaidd ar y Gŵyr yn ailagor ar gyfer penwythnos Gŵyl y Banc

Coed y Felin ym Mhenrhyn Gŵy

Mae Coed y Felin ym Mhenrhyn Gŵyr wedi ailagor i’r cyhoedd mewn pryd i benwythnos Gŵyl y Banc yn dilyn gwaith sylweddol i dynnu coed a oedd wedi’u heffeithio gan Glefyd Coed Ynn.

Mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a chontractwyr arbenigol wedi tynnu llawer o goed ynn mawr a oedd yn marw ac wedi’u heintio oddi ar hyd y prif lwybrau a’r hawliau tramwy cyhoeddus.

Roeddent yn peri risg difrifol i’r cyhoedd ac roedd yn hanfodol eu tynnu.

Meddai Nick Edwards, Uwch Swyddog Rheoli Tir, CNC:

“Roedd cael gwared ar y coed yma’n hanfodol a bydd yn sicrhau bod y goedwig yn dal i fod yn lle diogel y gall pobl ddal ati i fynd iddo a’i fwynhau yn y dyfodol.

“Ry’n ni’n gwerthfawrogi amynedd a dealltwriaeth y cyhoedd yn fawr yn ystod y cyfnod y mae Coed y Felin wedi bod ar gau. Ry’n ni’n falch o allu croesawu pobl i fwynhau a gwerthfawrogi’r coetiroedd hardd hyn unwaith eto.

“Fodd bynnag, rwy’n annog ymwelwyr i fod yn ymwybodol bod gwaith caboli i’w wneud o hyd. Byddwn yn ailymweld â rhai ardaloedd o’r coetir yn ddiweddarach yn y flwyddyn er mwyn osgoi amharu ar dymor bridio llawer o rywogaethau sy’n byw yn yr ardal yr adeg hon o’r flwyddyn.”

Bydd swyddogion CNC yn ailymweld â rhannau o’r coetir pan fydd modd iddynt wneud hynny heb darfu ar fyd natur. Byddant yn gwneud gwaith adfer i dacluso’r coetiroedd trwy dynnu malurion a glanhau’r llwybrau. Bydd y gwaith hwn yn ailddechrau yn yr hydref.

Yn y blynyddoedd i ddod, mae CNC yn bwriadu ailblannu rhywogaethau endemig a brodorol i wella’r coetiroedd ymhellach a byddai’n croesawu cefnogaeth gan y gymuned leol ac ysgolion. Bydd mwy o wybodaeth yn cael ei rhyddhau am y cyfle hwn pan fyddwn yn barod i ddechrau ar y cam hwn o’r gwaith.