Gwaith cwympo coed arloesol yn llwyddo i ddiogelu mwyngloddiau aur hynafol
Mae ymgyrch cwympo coed arloesol a drefnwyd i symud coed heintus gan ddiogelu cloddfeydd Rhufeinig hynafol yng Nghoedwig Mwyngloddiau Aur Dolaucothi, de Cymru, wedi cael ei chwblhau'n llwyddiannus.
Mae Coedwig Mwyngloddiau Aur Dolaucothi yn cael ei phrydlesu i Cyfoeth Naturiol Cymru gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac mae'n rhan o'r mwyngloddiau aur Rhufeinig cyfagos. Mae'n ardal ffrwythlon o ran archaeoleg, gyda Henebion Cofrestredig dynodedig gan gynnwys dyfrffosydd Rhufeinig, tanciau dŵr, cafnau golchi a chloddfeydd yn croesi’r safle.
Cafodd ardal naw hectar o faint yn y goedwig a reolir gan CNC ei heintio gan glefyd coed llarwydd (Phytophthora Ramorum) ac roedd angen cael gwared â’r coed. Roeddent yn sefyll yn farw ac yn fygythiad i ddiogelwch aelodau'r cyhoedd a'r nodweddion archaeolegol.
Roedd nifer o heriau’n perthyn i’r safle gan nad oedd mynediad i gymryd pren o'r goedwig ac roedd yn hollbwysig gwneud yn siŵr na fyddai’r nodweddion hanesyddol pwysig yn cael eu difrodi ar ddamwain gan beiriannau trwm.
Gweithiodd Cyfoeth Naturiol Cymru yn agos gyda Cadw, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed a thirfeddianwyr lleol i ddeall ble roedd yr olion ac i weithio o'u cwmpas fel bod modd eu gwarchod.
Aeth Thompson Brothers Timber Harvesting ati i gwympo’r coed a llunio system arloesol ar gyfer torri a symud y pren. Cafodd coed eu torri’n ddarnau mân a'u hanfon mewn sypiau ar draws y tir ar gebl sawl metr uwchben y gweithfeydd Rhufeinig, i lawr y bryn at ardal lanio islaw.
Dywedodd Caroline Riches, Rheolwr Gwaith Coedwig ar safle Mwyngloddiau Aur Dolaucothi, Cyfoeth Naturiol Cymru:
"Roedd Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol wedi cael ei osod ar y safle ar ôl cael diagnosis o glefyd coed llarwydd. Roedd y llarwydd wedi cael triniaeth i gydymffurfio â'r hysbysiad hwnnw, ac ers hynny, yr her fawr fu symud y coed marw o’r safle.
"Yn sgil hynny, bu rhaid rhoi ymgyrch gymhleth ar waith a oedd yn cynnwys gwaith cydweithredol helaeth o'r camau cynllunio hyd at y gwaith caib a rhaw.
"Mae cydweithio cryf a’r gallu i ddatblygu dull cynaeafu sensitif wedi arwain at lwyddo i symud y coed heintus yn ddiogel a gwarchod yr Henebion Cofrestredig yn Nolaucothi."
Meddai Aaron Thompson, o Thompson Brothers Timber Harvesting:
"Roedden ni'n gwybod cyn cychwyn ar y gwaith fod hwn yn safle anodd gyda llawer o gyfyngiadau archaeolegol i ddelio â nhw. Rydyn ni wedi gweithio ar safleoedd cymhleth o'r blaen, ond yn bendant ddim i'r graddau hyn.
"Mae wedi bod yn brofiad da gweithio gyda CNC a'r holl bartneriaid ar y jobyn yma. Rydyn ni'n deulu lleol felly mae cael gwaith ar y raddfa yma ar ein stepen drws wedi bod yn rhywbeth cadarnhaol iawn i ni."
Dywedodd Louise Mees, Arolygydd Henebion ac Archaeoleg de-orllewin Cymru ar gyfer Cadw:
"Mae hwn wedi bod yn brosiect gwerth chweil sydd wedi rhoi gwedd newydd i ni ar archaeoleg gymhleth y Mwyngloddiau Aur Rhufeinig yn Nolaucothi – safle unigryw yn y DU.
"Mae Cadw yn hynod ddiolchgar i Caroline Riches, Cyfoeth Naturiol Cymru, a Thompson Brothers am lunio a gweithredu system symud pren ddyfeisgar a ganiataodd i'r gwaith gael ei wneud gan ddiogelu'r nodweddion archeolegol unigryw sy'n rhan o'r safle arbennig hwn."
Dywedodd David Heart, sy’n Geidwad Arweiniol gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol:
“Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn falch bod y gwaith torri coed yn y rhan hon o Ystad Dolaucothi bellach wedi'i gwblhau, yn enwedig o ystyried y trafodaethau manwl oedd eu hangen i fodloni'r holl feini prawf a fodolai i ddiogelu'r Archaeoleg Rufeinig sydd ar wasgar ledled y coetir.
"Bydd y camau nesaf i ailblannu'r ardal hon o’r llethrau gyda chymysgedd o goed brodorol yn sicr o helpu i gefnogi ystad sydd eisoes yn gyfoethog o ran bywyd gwyllt."
Dywedod Alice Pyper, o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed:
"Yn ogystal â'r olion archaeolegol o bwysigrwydd cenedlaethol sy'n cael eu gwarchod gan y gyfraith, mae gan ardal Dolaucothi gyfoeth o archaeoleg nad yw wedi’i dynodi, ac mae llawer ohoni’n gysylltiedig â'r mwyngloddiau aur Rhufeinig.
"Mae gweithio mewn partneriaeth wedi sicrhau nad oes unrhyw olion archaeolegol eraill wedi cael eu difrodi heb ystyriaeth a bod gwaith wedi cael ei wneud i leihau unrhyw risg i'r dirwedd archaeolegol ehangach."
Cynhaliwyd y gwaith mewn dau gam ac fe'i cwblhawyd ym mis Awst.
Mae'r holl bren a dorrwyd wedi'i werthu fel biodanwydd, sy'n ffynhonnell ynni cynaliadwy ac yn cefnogi'r economi leol.
Gan fod yr ardal wedi'i dynodi'n Goetir Hynafol, bydd yn cael ei hadfer yn goetir â rhywogaethau brodorol fel derw, criafol a chyll.