Cais amrywio trwydded ar gyfer hen orsaf bŵer niwclear

Mae ymgynghoriad cyhoeddus wedi'i lansio ar gyfer amrywio trwydded amgylcheddol ar gyfer hen orsaf bŵer niwclear yng Ngwynedd.

Mae Nuclear Restoration Services Limited (NRS) wedi cyflwyno’r cais i Cyfoeth Naturiol Cymru i newid ei drwydded amgylcheddol ar gyfer hen safle Gorsaf Bŵer Niwclear Trawsfynydd a gaeodd ym 1991.

Fel rhan o'r cais, mae NRS (Magnox gynt) yn cynnig dymchwel, mewnlenwi a chapio cyfadeiladau pyllau oeri Trawsfynydd, sef cyfres o adeiladau sydd wedi’u lleoli ochr yn ochr â dau adeilad yr adweithyddion.

Bellach mae ymgynghoriad cyhoeddus pedair wythnos yn rhedeg tan 6 Awst er mwyn i aelodau'r cyhoedd allu rhoi sylwadau ar y cais.

Mae gan y pyllau oeri a'r celloedd storio cyfagos strwythurau tebyg i flychau o dan y ddaear yn cynnwys gwagleoedd hyd at chwe metr o ddyfnder gyda chyfaint o tua 5,000 metr ciwbig i gyd.

Bydd dymchwel strwythurau concrid cyfadeilad y pyllau sydd uwchlaw’r ddaear yn arwain at lenwi'r gwagle â choncrit, mewn darnau’n bennaf, sy’n cynnwys rhywfaint o ymbelydredd.

Yna caiff y deunydd ei gau i mewn – proses a elwir yn ‘capio’.

Byddwn yn ymgynghori ag arbenigwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Swyddfa Rheoleiddio Niwclear drwy gydol y cais, sy’n gorfod bodloni ein safonau diogelwch ac amgylcheddol os yw am gael ei gymeradwyo.

Dywedodd Martin Cox, Pennaeth Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer Gogledd Orllewin Cymru:

“Rydym yn deall bod yr amrywiad hwn o drwydded o ddiddordeb arbennig i’r cyhoedd a’r gymuned leol ac rydym yn annog cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan yn rhan ffurfiol yr ymgynghoriad hwn.

“Fel rheoleiddiwr y cais hwn, rydym wedi ymrwymo i gadw’r gymuned a’r amgylchedd yn iach.

“Fel rhan o’r broses o benderfynu ar y cais, mae’n rhaid i ni fod yn fodlon bod y gwaith dymchwel, gwaredu a chapio arfaethedig yn cael ei wneud mewn ffordd sy’n ddiogel ac sy’n bodloni ein safonau ar gyfer diogelu pobl a’r amgylchedd, a’i fod hefyd yn caniatáu i’r safle gael ei ryddhau o orchwyl rheoleiddio sylweddau ymbelydrol yn y dyfodol.

“Rydym yn rhagweld cyfnod penderfynu hir ar gyfer y cais hwn, a byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r cyhoedd drwy gydol y broses."

Unwaith y bydd y cyfnod penderfynu wedi'i gwblhau, byddwn yn rhoi gwybod a ydym yn caniatáu'r amrywiad ai peidio.

Gallwch gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a gweld dogfennau sy'n ymwneud â'r cais yma.