Ymarfer adolygu trwyddedau yn canolbwyntio ar y sector trin gwastraff
Mae 36 o drwyddedau amgylcheddol ar gyfer gosodiadau trin gwastraff wedi’u hadolygu gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a’u huwchraddio i sicrhau eu bod yn perfformio i'r safonau amgylcheddol uchaf.
Mae cyfleusterau mawr sy'n defnyddio ystod eang o dechnolegau trin gwastraff yn cael eu cynnwys yn yr adolygiad - megis triniaeth gwres i sterileiddio gwastraff clinigol peryglus, prosesau Treulio Anaerobig (AD) biolegol ac adfer oergelloedd ar ddiwedd eu hoes. Lle nodwyd gwelliannau, bydd hyn yn arwain at berfformiad amgylcheddol gwell a llai o allyriadau.
Ymhlith yr amodau newydd ar gyfer safleoedd AD mae gwelliannau i fesurau cadw eilaidd a gofynion ychwanegol ar gyfer monitro a rheoli paramedrau gwastraff a phrosesau allweddol. Bydd hyn yn helpu i sicrhau sefydlogrwydd yn y treulydd ac yn lleihau’r posibilrwydd o arogleuon annifyr, ac yn rhoi rhybudd cynnar o unrhyw fethiant mewn systemau, gan leihau'r risg o ffrwydradau a gollyngiadau gwastraff.
Mae'r ymarfer yn cynnwys adolygu trwyddedau yn erbyn arferion gorau diweddaraf y diwydiant – Dogfen Gyfeirio Technegau Gorau Sydd ar Gael yr UE (BREF).
Mae'n un o ofynion y Gyfarwyddeb Allyriadau Diwydiannol (IED) ac mae'n sicrhau bod pob safle‘n parhau i ddefnyddio'r technegau gorau ar gyfer atal neu leihau allyriadau ac effeithiau ar yr amgylchedd. Gall y technegau gynnwys y dechnoleg a ddefnyddir yn ogystal â'r ffordd y mae gosodiad yn cael ei ddylunio, ei adeiladu, ei gynnal, ei weithredu a'i ddatgomisiynu.
Mae'r trwyddedau bellach wedi'u hailgyhoeddi gyda diweddariadau i’r amodau a fydd yn gwella'r systemau rheoli amgylcheddol ar safleoedd sy'n darparu lefel uwch o berfformiad amgylcheddol gydag ymrwymiad i wella’n barhaus. Bydd gan safleoedd sy'n derbyn ac yn adfer oergelloedd ar ddiwedd eu hoes gyfyngiadau llymach mewn perthynas â rhyddhau'r llygryddion CFC niweidiol.
Ni chynhwyswyd pum trwydded ychwanegol o fewn y sector yn yr adolygiad oherwydd eu bod naill ai wedi cau'n ddiweddar neu eu bod ar fin cau.
Dywedodd Holly Noble, Arweinydd Tîm Trwyddedu CNC:
"Mae ein trwyddedau amgylcheddol yn gosod amodau ar gyfer sut mae'n rhaid i gyfleuster weithredu a chyfyngu ar yr allyriadau maent yn eu creu – ond nid diwedd y broses yw hyn.
"Nid yn unig y bydd pob safle'n cael ei reoleiddio'n drylwyr gan ein swyddogion, ond mae'n rhaid iddynt hefyd wybod am y datblygiadau technolegol diweddaraf ac ymdrechu i wella eu perfformiad amgylcheddol.
"Mewn rhai achosion mae hyn yn gofyn i gwmnïau wneud buddsoddiad sylweddol yn eu seilwaith, ac rydym yn gwerthfawrogi efallai na fydd hynny'n hawdd yn ystod cyfnod mor ansicr. Ond mae'n ymarfer pwysig i ni ei gwblhau, sy’n ein galluogi i sbarduno gwelliannau a dod â'r holl osodiadau trin gwastraff i lefel gyson ledled Cymru."
Cyhoeddwyd Dogfen Gyfeirio Technegau Gorau Sydd ar Gael yr UE (BREF) ar 17 Awst 2018 yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd. Mae gan osodiadau sy’n bodoli eisoes bedair blynedd i gydymffurfio, tra bod yn rhaid i osodiadau newydd gydymffurfio ar unwaith.