Edrych ymlaen at weithgareddau ledled Cymru ar drothwy Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored
Yr wythnos nesaf (28 Mawrth-3 Ebrill) bydd hi’n Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru unwaith eto.
Sefydlwyd yr Wythnos gyntaf yn 2019 gan CNC mewn partneriaeth â Chyngor Cymru ar Gyfer Dysgu yn yr Awyr Agored i annog ac ysbrydoli athrawon, grwpiau dysgu a theuluoedd ledled Cymru i ymgorffori dysgu yn yr awyr agored mewn bywyd ysgol a bywyd teuluol ac elwa o’i lu o fanteision.
Y thema eleni yw natur, ac anogir pobl o bob cwr o Gymru i gymryd rhan – boed hynny drwy fynychu un o'r digwyddiadau sydd wedi’u trefnu neu drwy fynd am dro yn eu coetir lleol, crwydro traeth, neu ymestyn eu coesau yn y parc.
Dywedodd Clare Pillman, Prif Weithredwr CNC:
"Mae tystiolaeth yn dangos bod cysylltu â natur yn dda i ni. Mae hefyd yn dda i'r amgylchedd gan ei fod yn annog ymddygiad cadarnhaol gydol oes.
"Mae dysgu yn yr awyr agored wedi dod yn fwyfwy pwysig dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig o ganlyniad i bandemig Covid-19 sydd wedi ein gwneud ni i gyd yn fwy ymwybodol nag erioed o bwysigrwydd treulio amser yn yr awyr agored a meithrin ein cysylltiad â natur.
"Mae'n cael ei gydnabod yn eang am ei fanteision sylweddol o ran iechyd a lles ac mae Llywodraeth Cymru yn ei argymell fel dull addysgegol allweddol o gyflwyno'r Cwricwlwm newydd i Gymru.
"Mae Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru yn gyfle gwych i arddangos yr holl gyfleoedd arbennig sydd i ddysgu yn yr awyr agored ar gyfer ysgolion a lleoliadau addysgol, yn ogystal â theuluoedd a'r cyhoedd yn ehangach – beth bynnag fo'ch oedran."
Drwy gydol yr Wythnos, sy'n cael ei rhedeg ar y cyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Cymru ar Gyfer Dysgu yn yr Awyr Agored, cynhelir gweithgareddau a digwyddiadau ledled Cymru i helpu pobl i gysylltu â natur, yn ogystal ag ysbrydoli athrawon, grwpiau dysgu a theuluoedd ledled Cymru i ymgorffori dysgu yn yr amgylchedd naturiol mewn bywyd ysgol a bywyd teulu, ynghyd â dysgu amdano a dysgu er ei fwyn.
Mae aelodau Cyngor Cymru ar Gyfer Dysgu yn yr Awyr Agored ymhlith y rhai sy'n edrych ymlaen at wythnos brysur sy'n llawn gweithgareddau.
Dywedodd Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd:
"Drwy ein gwasanaeth Awyr Agored a Chanolfannau Preswyl yr Urdd rydym yn cynnig cyfleoedd unigryw i blant a phobl ifanc fwynhau ystod eang o weithgareddau awyr agored difyr i ddatblygu eu hyder.
"Mae Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru yn gyfle gwych i ddathlu'r amrywiaeth eang o weithgareddau a phrofiadau sydd ar gael i bobl ifanc gyda'r Urdd drwy gyfrwng y Gymraeg."
Bydd rhaglen Gwobr Dug Caeredin hefyd yn ymuno â'r dathliadau, a thrwy gydol yr Wythnos bydd yn arddangos yr amrywiaeth o weithgareddau y gall pobl ifanc gymryd rhan ynddynt, nid yn unig drwy ei theithiau ond hefyd drwy wirfoddoli a datblygu sgiliau.
Dywedodd Stephanie Price, o raglen Gwobr Dug Caeredin Cymru:
"Gall cysylltu â natur a'r amgylchedd naturiol drwy ddysgu yn yr awyr agored gael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles pobl ifanc, boed hynny drwy wneud gweithgaredd anturus, cynnal prosiect amgylcheddol neu chwilota mewn pyllau dŵr. Heddiw, mae’n bwysicach nag erioed dathlu gwaith gwych holl ddarparwyr dysgu yn yr awyr agored Cymru."
Ychwanegodd Catherine Mealing-Jones, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:
"Rydym yn falch iawn o fod yn cymryd rhan yn Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored eleni. Mae ein tîm addysg yn cyflwyno rhaglen fywiog o weithgareddau, gan gynnwys geogelcio, mesur coed, teithiau cerdded mewn corsydd, adeiladu cuddfannau a chyfeiriannu. Mae ymgysylltu â phlant o bob cefndir yn yr awyr agored yn rhan allweddol o'n gwaith yn y parc cenedlaethol; mae'n hanfodol er mwyn diogelu dyfodol ein byd naturiol."
Yn y cyfamser, bydd Anita Diamond o Antur Natur yn mynd â disgyblion allan i ddysgu am goed, ystlumod a chadwyni bwyd. Meddai:
"Fe fydda i hefyd yn cynnal digwyddiad hyfforddi i athrawon ac addysgwyr o’r enw 'Defnyddio coetiroedd ar gyfer addysgu gwyddoniaeth a datblygu sgiliau rhifedd a llafaredd' mewn partneriaeth â Phrosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru."
I weld y rhaglen lawn o ddigwyddiadau a gweithgareddau, ewch i https://cy.walescouncilforoutdoorlearning.org/