CNC yn croesawi cyhoeddiad Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllideb ar gyfer y tair blynedd nesaf.
Meddai Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) rôl bwysig i’w chwarae wrth fynd i’r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd, sydd wedi’u cysylltu yn y bôn, ac rydym yn falch o weld y materion hanfodol hyn yn cael lle canolog yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru sy’n cael ei chyhoeddi heddiw (20 Rhagfyr 2021).
“Bydd y gyllideb ddangosol yn caniatáu i CNC gynllunio sut y gallwn gyflawni yn erbyn blaenoriaethau Gweinidogol dros y tair blynedd nesaf. Yn ogystal â’r cyllid cymorth grant, ac yn dilyn sgyrsiau cadarnhaol gyda Llywodraeth Cymru, rydym yn disgwyl cyllid cyfalaf pellach dros y tair blynedd ariannol nesaf bydd yn caniatáu i ni fuddsoddi ymhellach mewn prosiectau ansawdd dŵr allweddol, ynghyd â phrosiectau a gynlluniwyd i helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng natur. Bydd hefyd yn caniatáu inni fwrw ymlaen â’r gwaith o ddynodi Parc Cenedlaethol newydd yng Ngogledd Cymru a thri phrosiect sylweddol a fydd yn cael eu hariannu’n allanol, sef prosiect Natur am Byth a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a dau brosiect eraill a ariennir gan gronfa LIFE Ewrop.
"Bydd darparu adnoddau yn effeithiol ar gyfer uchelgeisiau Gweinidogol yn allweddol os ydym yn dymuno sicrhau dyfodol cynaliadwy, gwyrddach a thecach ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Mae CNC wedi bod yn ymgysylltu'n gadarnhaol â Llywodraeth Cymru dros yr wythnosau diwethaf i sicrhau bod ein cyllid cymorth grant yn cyd-fynd â'n blaenoriaethau y cytunwyd arnynt.
“Mae'n amlwg bod gennym yr uchelgais ar y cyd i ymgorffori ein hymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn. Byddwn yn parhau i weithio ar y cyd dros yr wythnosau nesaf wrth i ni ystyried y dyraniadau cyllideb arfaethedig cyn cyhoeddi'r gyllideb derfynol ym mis Mawrth 2022."