Mae CNC yn rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd cynllun llifogydd gwerth £21 miliwn yng Nghasnewydd
Flwyddyn ers i'r gwaith adeiladu ar gynllun rheoli perygl llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gwerth £21 miliwn yng Nghasnewydd ddechrau, mae'r prosiect a gynlluniwyd i leihau'r perygl o lifogydd i 2,000 eiddo yn mynd yn ei flaen yn dda.
Mae cartrefi a busnesau yn ardal Llyswyry yn y ddinas yn agored i lifogydd o Afon Wysg yn ystod cyfnodau o law trwm a llanw uchel. Heb ymyrraeth, amcangyfrifir y gallai cynnydd yn lefel y môr a glawiad mwy eithafol arwain at lifogydd mwy helaeth yn yr ardal yn y dyfodol.
Dechreuodd y cynllun rheoli perygl llifogydd ym mis Chwefror 2023, a chafodd ei lunio gyda rhagamcanion newid hinsawdd yn y dyfodol mewn golwg, gan roi ystyriaeth i gynnydd yn lefel y môr dros y 50 mlynedd nesaf.
Bydd yr amddiffynfeydd newydd, sy’n gyfuniad o waliau llifogydd, gatiau ac argloddiau glaswellt, yn lleihau'r perygl o lifogydd i gartrefi yn yr ardaloedd, yn ogystal ag ardaloedd diwydiannol pwysig. Bydd hyn yn darparu mwy o sicrwydd swyddi trwy ddiogelu'r mannau lle mae pobl yn gweithio, cadw busnesau ar agor a chefnogi'r economi leol ehangach.
Mae'r gwaith yn cynnwys cryfhau rhannau o'r arglawdd llifogydd 1350m presennol ar hyd glan ddwyreiniol yr afon ac adeiladu waliau llifogydd newydd, gan godi rhan o'r briffordd a gosod llifddor fawr.
Mae’r gwaith o osod 700 metr llinol o bolion dalen (dyfnder o 10m) wedi'i gwblhau, gan helpu i gryfhau'r arglawdd ar hyd Afon Wysg.
Mae'r polion dalen yn ffurfio bron i hanner yr arglawdd llifogydd newydd a chawsant eu gosod gan ddefnyddio gwasg hydrolig, sydd wedi helpu i leihau'r dirgryniadau a'r sŵn sy’n tarfu ar fywyd gwyllt a diwydiant lleol yn sylweddol.
Mae'r rhan fwyaf o'r wal goncrit sydd wedi'i hatgyfnerthu o amgylch ystad ddiwydiannol Felnex hefyd wedi'i chwblhau, sy'n ffurfio 35% arall o'r amddiffyniad cyffredinol rhag llifogydd.
Mae gwaith paratoi ar gyfer y rhan uchel o'r briffordd oddi ar Heol Eastbank bron wedi'i gwblhau. Bydd hyn yn darparu llwybr amgen i ddefnyddwyr ffordd yn yr ardal, pe bai'r llifddor ar Corporation Road yn cael ei gweithredu at ddibenion cynnal a chadw neu cyn adegau pan ragwelir llif llanw brig.
Mae'r haen sylfaen hefyd wedi'i chwblhau fel rhan o'r gwaith i wella Llwybr Arfordir Cymru gerllaw er mwyn gwella golwg y llwybr a chynnig mwy o hygyrchedd.
Cyfanswm gwerth y cynllun yw tua £21 miliwn, a disgwylir i'r gwaith leihau'r perygl o lifogydd i fwy na 2,000 eiddo yn yr ardal.
Meddai Steve Morgan, Pennaeth Gweithrediadau De Ddwyrain Cymru ar gyfer CNC:
Rydym yn falch iawn o allu rhannu’r newyddion am gynnydd y cynllun rheoli perygl llifogydd yng Nghasnewydd, sy'n amlygu ein hymrwymiad i gynyddu gwytnwch cymunedau i newid hinsawdd a lleihau'r risg o effeithiau llifogydd ar bobl ac eiddo ledled Cymru.
Ni ellir gwadu fod newid hinsawdd yn digwydd nawr ac mae'n cynyddu amlder a difrifoldeb digwyddiadau tywydd eithafol. Rydym wedi gweld effeithiau gwirioneddol hynny yn ddiweddar gyda stormydd wedi’u henwi yn taro Cymru dros fisoedd yr hydref a'r gaeaf.
Er ein bod yn gobeithio y bydd y cynllun hwn yn rhoi mwy o dawelwch meddwl i drigolion a busnesau o ran lleihau'r perygl o lifogydd yn yr ardal hon, rydym hefyd yn annog yn gryf fod pobl yn cofrestru ar gyfer rhybuddion llifogydd a gwirio'r perygl o lifogydd yn rheolaidd ar ein gwefan.
Meddai Julie James, Gweinidog dros Newid Hinsawdd:
Gallwn ddisgwyl i lefelau’r môr godi ac i amodau tywydd eithafol gynyddu o ganlyniad uniongyrchol i newid hinsawdd a dyna pam rydym yn gweithio gyda CNC i gefnogi cymunedau y bydd hyn yn effeithio fwyaf arnynt.
Mae cynllun llifogydd Stryd Stephenson yn enghraifft o hyn – drwy helpu i ddiogelu 2,000 o eiddo yn yr ardal, mae’n rhagorol clywed am y cynnydd sy’n cael ei wneud ac edrychaf ymlaen at weld y gwaith wedi’i gwblhau yn yr hydref.
Mae disgwyl i'r gwaith ar y cynllun gael ei gwblhau yn yr hydref eleni.
Gall unrhyw un sy'n poeni am lifogydd wirio'r risg yn ei ardal gyda gwiriwr cod post syml ar wefan CNC, a chofrestru ar gyfer y gwasanaeth rhybuddion llifogydd am ddim.
Mae diweddariadau pellach i'r cynllun hefyd i'w gweld ar dudalen ymgynghori ar-lein CNC