CNC yn ymateb i lyncdwll posibl yn ar ôl iddo lyncu'r Afon Lliedi, Llanelli
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ymateb i lyncdwll posibl sydd wedi llyncu holl lif dŵr yr Afon Lliedi o dan pont yn ardal Llanerch yn Llanelli ar 16 Awst.
Mae'r sefyllfa dan reolaeth ac mae mesurau diogelwch wedi'u rhoi ar waith i amddiffyn staff sy'n ymateb i'r digwyddiad a'r cyhoedd. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cau'r bont fel rhagofal oherwydd pryderon am sefydlogrwydd y bont.
Anfonwyd Gweithlu Integredig CNC i'r ardal ac maent wedi gosod pwmp i bwmpio dŵr o amgylch y twll ac yn ôl i sianel yr afon i lawr yr afon o'r twll.
Dywedodd Ioan Williams, Rheolwr Tactegol ar Ddyletswydd CNC ar gyfer De Orllewin Cymru: "Rydym yn gweithio'n agos gyda'n cydweithwyr yng Nghyngor Sir Caerfyrddin i ddeall beth sy'n digwydd ac i roi camau diogelwch ar waith.
"Gallwn gadarnhau bod tua 50 o bysgod marw wedi cael eu gweld yn yr ardal gyfagos. Gwelwyd pysgod byw mewn pyllau bach yn sianel yr afon i lawr yr afon.
"Rydym yn gobeithio y bydd pwmpio llif yr afon y tu hwnt i'r twll yn lleihau nifer y pysgod y bydd yn marw, drwy ddarparu rhywfaint o lif yr afon i'r pysgod sydd wedi'u dal mewn pyllau bach."
Nid oes unrhyw ailymddangosiad amlwg o'r dŵr ac nid yw cyfeiriad y llif dŵr sydd yn mynd i'r twll yn hysbys. Bydd yr Awdurdod Glo yn bresennol yn y bore (17 Awst) i asesu'r sefyllfa ymhellach.
Mae CNC yn annog unrhyw un sy'n sylwi ar rywbeth a allai fod yn gysylltiedig â'r digwyddiad i ffonio eu llinell ddigwyddiadau ar 0300 065 3000.