CNC yn galw ar fusnesau i helpu i atal pobl rhag dympio teiars gwastraff
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n galw ar fusnesau sy’n cynhyrchu teiars gwastraff i helpu i atal pobl rhag dympio a llosgi teiars yn anghyfreithlon yn ardaloedd Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr.
Meddai Pippa Sabine, sy’n swyddog Taclo Troseddau Gwastraff ar gyfer CNC:
“Mae cynnydd wedi bod yn nifer yr achosion o ddympio a llosgi teiars yn anghyfreithlon, sydd nid yn unig yn niweidio’r amgylchedd, ond hefyd yn gallu cael effaith fawr ar iechyd pobl a’r economi leol.
“Mae CNC wedi cysylltu â busnesau lleol sy’n cynhyrchu teiars gwastraff i gael eu cymorth er mwyn mynd i’r afael â’r broblem hon drwy wirio i ble mae eu teiars yn mynd.”
Mae gan bob busnes gyfrifoldeb gyfreithiol i sicrhau nad yw eu gwastraff yn mynd i ddwylo troseddwyr.
Ychwanegodd Pippa:
“Cyn cyflogi contractwr i symud gwastraff, dylai busnesau ddilyn y canllawiau hyn:
- Gofynnwch a yw eich contractwr wedi’i gofrestru i gario gwastraff. Gallwch weld Cofrestr Gyhoeddus Cludwyr, Broceriaid a Delwyr Gwastraff ar wefan CNC.
- Gofynnwch i ble maen nhw’n mynd â’ch teiars. Dylai hyn fod i safle sy’n meddu ar drwydded wastraff; gallwch wirio safleoedd trwyddedig ar wefan CNC.
- Gofynnwch am nodyn trosglwyddo, bydd hwn yn dweud i ble aeth eich gwastraff. Dylech gadw copi o’r nodyn hwn am ddwy flynedd.
“A chofiwch, os cewch gynnig pris am waredu’ch teiars sy’n swnio’n rhy dda i fod yn gyfreithlon, meddyliwch ddwywaith gan fod eich greddf yn siŵr o fod yn gywir.”
Mae troseddau gwastraff yn broblem ddifrifol sy’n costio miliynau o bunnoedd i fusnesau, perchnogion tir a threthdalwyr bob blwyddyn ac yn achosi cryn niwed i’r amgylchedd, iechyd pobl a bywyd gwyllt.
Dylai unrhyw un sy’n amau gweithgarwch gwastraff anghyfreithlon yn ei ardal roi gwybod amdano drwy linell gymorth digwyddiadau CNC ar 0300 065 3000.
Archwilio mwy
Yn yr adran hon hefyd
Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.