Bwrdd CNC yn gwneud newidiadau i Drwyddedau Cyffredinol
Heddiw mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cadarnhau y bydd yn defnyddio dull newydd o roi trwyddedau cyffredinol i reoli adar gwyllt yn dilyn penderfyniad gan y Bwrdd heddiw (24 Mawrth).
Daw'r penderfyniad yn dilyn adolygiad o system drwyddedu CNC i sicrhau bod y prosesau sydd ar waith ar hyn o bryd yn gadarn ac yn gymesur.
Roedd yr adolygiad yn cynnwys ffocws penodol ar Drwyddedau Cyffredinol – proses lle rhoddir trwyddedau ar gyfer gweithgareddau lle mae risg isel i gadwraeth neu i les rhywogaeth a warchodir.
Er bod pob aderyn gwyllt yn cael ei warchod gan y gyfraith, mae amgylchiadau penodol lle mae CNC yn trwyddedu rheolaeth farwol o adar gwyllt a dinistrio wyau a nythod at ddibenion diffiniedig, er enghraifft er mwyn diogelu iechyd neu ddiogelwch y cyhoedd, i atal difrod difrifol i gnydau, da byw neu bysgodfeydd, neu i warchod rhywogaethau eraill o fywyd gwyllt.
Ystyriodd Bwrdd CNC yr argymhellion sy'n deillio o'r adolygiad, yn benodol mewn perthynas â thrwyddedau cyffredinol. Penderfynodd y dylai CNC barhau i roi trwyddedau cyffredinol ar gyfer rheoli adar gwyllt at rai dibenion, mewn rhai amgylchiadau a lle nad oes unrhyw atebion boddhaol eraill.
Bydd y penderfyniadau a wneir gan y Bwrdd heddiw yn golygu newidiadau i drwyddedau o 1 Gorffennaf ymlaen ac mae'r rhain yn cynnwys:
- Fel arfer, ni fydd rhywogaethau y mae eu poblogaethau yng Nghymru yn dirywio'n sylweddol, yn cael eu hystyried yn addas i'w rhestru ar drwyddedau cyffredinol.
- Ni fydd unrhyw rywogaethau ychwanegol yn cael eu hychwanegu at gwmpas trwyddedau cyffredinol ar hyn o bryd.
- Bydd y drwydded gyffredinol er mwyn atal difrod difrifol i gnydau a da byw yn nodi pa rywogaethau o adar y gellir eu rheoli i atal pa fathau o ddifrod.
- Bydd y drwydded gyffredinol at ddiben gwarchod adar gwyllt yn caniatáu rheoli brain tyddyn yn unig, gwarchod rhestr o rywogaethau ar restrau coch neu oren Adar o Bryder Cadwraethol (BoCC) sy'n bridio yng Nghymru ac sy'n cael eu hystyried yn agored i ysglyfaethu gan frain tyddyn.
- Bydd trwydded gyffredinol yn parhau i gael ei rhoi i reoli colomennod gwyllt ar gyfer diogelu iechyd a diogelwch y cyhoedd. Bydd yn dal yn angenrheidiol gwneud cais am drwyddedau penodol ar gyfer rheoli unrhyw rywogaeth o wylanod i’r diben hwn.
- Bydd defnyddio trapiau cawell i reoli adar gwyllt yn ddibynnol ar nifer o amodau a chyngor newydd ynghylch lles anifeiliaid a lleihau'r risg fod adar eraill yn cael eu dal yn sgil hyn.
- Bydd nifer y Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig lle gellir defnyddio trwyddedau cyffredinol yn cynyddu.
Meddai Ceri Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu CNC:
"Rydym wedi ymrwymo i ddarparu system drwyddedu sy'n effeithiol, yn ymarferol ac yn gymesur i ddefnyddwyr, tra'n darparu'r amddiffyniad angenrheidiol i adar.
"Rydym wedi gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i brofi ein syniadau ac rydym wedi gwahodd tystiolaeth gan eraill i lywio ein gwaith. Rydym wedi comisiynu ac wedi casglu tystiolaeth wyddonol, ac wedi profi ein cynigion drwy ymgynghoriad cyhoeddus a derbyn mwy na 600 o ymatebion.
"Yn dilyn penderfyniadau'r Bwrdd heddiw, rydym yn hyderus fod gennym ddull cadarn a chymesur o ymdrin â'n trwyddedau cyffredinol. Er mwyn sicrhau ein bod yn defnyddio'r dystiolaeth a'r data diweddaraf, byddwn hefyd yn sefydlu proses adolygu ffurfiol bob chwe blynedd ar gyfer ein trwyddedau cyffredinol."
Gall unrhyw un sy'n bwriadu defnyddio dulliau marwol o reoli adar mewn sefyllfaoedd nad ydynt yn dod o dan drwydded gyffredinol ddal i wneud cais am drwydded benodol.