CNC bellach yw’r unig reoleiddiwr ar gyfer Ffatri Byrddau Gronynnau’r Waun
Bellach, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw’r unig reoleiddiwr amgylcheddol ar gyfer safle Kronospan yn y Waun a bydd yn cynnal yr holl swyddogaethau rheoleiddio yn y dyfodol mewn perthynas â'i drwydded.
Ar 4 Hydref 2022, cwblhaodd CNC y broses o amrywio a chyfuno trwyddedau'r ddau reoleiddiwr, yn dilyn ymgynghoriad ar drwydded ddrafft a lansiodd ym mis Mehefin, a rhoddodd drwydded gyfunol i’r gweithredwr.
Mae'r drwydded derfynol a'n dogfen benderfynu fanwl ar gael ar ein cofrestr gyhoeddus ar-lein.
Mae Kronospan Limited wedi bod yn gweithredu ffatri gweithgynhyrchu byrddau gronynnau a byrddau ffeibr dwysedd canolig (MDF) yn y Waun, Gogledd Cymru ers blynyddoedd lawer.
Ym mis Mawrth 2018 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gyfarwyddyd oedd yn ei gwneud yn ofynnol i CNC gyfuno trwyddedau presennol y ddau reoleiddiwr, (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a CNC), gan olygu mai CNC fyddai’r unig reoleiddiwr.
Meddai Lyndsey Rawlinson, Pennaeth Gweithrediadau CNC ar gyfer Gogledd-ddwyrain Cymru:
"Mae sut y byddai Kronospan yn cael ei reoleiddio yn y dyfodol wastad wedi bod yn fater pwysig i'r gymuned leol. Mae dod yn unig reoleiddwyr y safle yn caniatáu inni sicrhau bod y gweithredwyr yn cydymffurfio â safonau perthnasol a thrwy hynny’n amddiffyn iechyd pobl a'r amgylchedd. Bydd hyn hefyd yn helpu i sicrhau cysondeb drwy gynnig un pwynt cyswllt i'r gweithredwr, y gymuned leol a'r rhanddeiliaid.
"Mae'r drwydded yn cynnwys nifer o amodau gwella i'r gweithredwr eu rhoi ar waith dros y 18 mis nesaf. Byddwn yn gweithio'n agos gyda Kronospan i sicrhau bod y gwelliannau hyn yn cael eu gwneud."
Darllenwch ein datganiad sefyllfa diweddaraf.