Ymgyrch newydd yn ceisio atal llygredd yn Sir y Fflint

Mae ymgyrch newydd wedi'i lansio gyda'r nod o atal llygredd o ystadau diwydiannol yn Sir y Fflint.

Yn ystod yr ymgyrch, a lansiwyd ddydd Mercher 7 Chwefror dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), bu swyddogion yn ymweld â safleoedd a busnesau lleol ar ystadau diwydiannol Parc Aber, Parc y Castell ac Ashmount Enterprise yn y Fflint i wirio draeniau, storio hylifau, cemegau a gweithdrefnau gollwng.

Nod swyddogion CNC yw sicrhau bod y mesurau cywir yn eu lle gan fusnesau ar yr ystadau diwydiannol i atal achosion o lygredd. Daw hyn yn dilyn sawl adroddiad o lygredd yn rhedeg i Nant Swinchiard, un o lednentydd yr Afon Dyfrdwy, o'r ystadau diwydiannol cyfagos.

Dywedodd Elizabeth Felton, Arweinydd Tîm Amgylchedd CNC ar gyfer Sir y Fflint:

“Mae rheoliadau amgylcheddol yn eu lle i helpu i warchod ein hamgylchedd a’n dyfrffyrdd ac mae'n bwysig ein bod yn atgoffa busnesau lleol o'r rhain yn dilyn sawl achos o lygredd yn ddiweddar yn Nant Swinchiard, y Fflint.

“Mae gan yr ystadau diwydiannol ddyletswydd gofal i’r cymunedau y maent yn gweithredu ynddynt, i sicrhau bod y rheolaethau a’r mesurau diogelu cywir yn eu lle i atal digwyddiadau o’r fath.

“Rydym yn gobeithio y bydd yr ymgyrch newydd hon yn codi ymwybyddiaeth o beryglon llygredd a sut y gallant helpu i warchod ein hamgylchedd a’n dyfrffyrdd.”

Gellir adrodd am unrhyw achosion o lygredd neu ddigwyddiadau amgylcheddol eraill tybiedig drwy gysylltu â’r llinell gymorth digwyddiadau 24 awr y dydd ar 0300 065 3000, e-bostio icc@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu ar-lein: Cyfoeth Naturiol Cymru / Rhoi gwybod am ddigwyddiad (naturalresources.wales)