Cyfoeth Naturiol Cymru yn croesawu canfyddiadau adolygiad llifogydd annibynnol
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) heddiw (31 Awst) wedi croesawu cyhoeddi’r adolygiad annibynnol o adroddiadau adran 19 Llywodraeth Leol a Cyfoeth Naturiol Cymru ar lifogydd eithafol yn ystod gaeaf 2020-2021.
Dywedodd Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru, Syr David Henshaw:
“Rydym yn croesawu cyhoeddi’r adolygiad hwn i sut mae adrodd ar ddigwyddiadau llifogydd yn cyfrannu at reoli perygl llifogydd Cymru yn y dyfodol. Mae newid yn yr hinsawdd yn digwydd nawr, ac fel mae’r adroddiad hwn, a’n hadolygiadau ein hunain yn ei gydnabod, mae angen inni i gyd weithio gyda’n gilydd ar draws pob rhan o lywodraeth a chymdeithas i addasu i’r bygythiad gwirioneddol hwn.
“Ar ôl pob digwyddiad llifogydd difrifol, mae CNC yn cynnal ei waith adfer ac adolygu rhagweithiol ei hun i sicrhau bod ein sefydliad yn dysgu gwersi o’r profiad ac yn gwneud gwelliannau lle bynnag y bo modd.
“Cafodd ein hadolygiadau o'n hymateb i lifogydd mis Chwefror 2020 eu hystyried fel rhan o’r broses hon, ac rydym yn croesawu’r gydnabyddiaeth y mae’r adroddiad yn ei rhoi i’r gwaith pwysig rydym wedi’i wneud ers y digwyddiadau hyn i fynd i’r afael â’r camau gweithredu a’r argymhellion a nodwyd a’u rhoi ar waith. Mae’n nodi’r hyn yr ydym wedi gallu ei roi ar waith yn gyflym o dan strwythur llywodraethu cryf, a’r cynnydd yr ydym yn ei wneud i gyflawni’r ychydig gamau gweithredu sy’n weddill. Rydym yn cydnabod yn llawn yr argymhelliad bod CNC yn nodi amserlen glir ar gyfer rhoi’r camau hyn ar waith, ac mae gennym eisoes drefniadau adrodd a llywodraethu mewnol cadarn i sicrhau bod y camau hyn yn cael eu cynllunio, eu holrhain a’u cwblhau’n effeithiol fel rhan o’n hymrwymiad i ddysgu o'n hadolygiadau.
“Rydym ni hefyd yn cydnabod y cyfyngiadau y mae’r adroddiad yn eu nodi mewn perthynas â’r fframwaith presennol a osodwyd ar gyfer y broses Adran 19, ac mae ein barn ar y meysydd sydd angen ystyriaeth bellach yn cyd-fynd â’r canfyddiadau. Mae hon yn broses bwysig sy’n galluogi awdurdodau lleol i ddysgu o ddigwyddiadau a nodi meysydd i’w gwella. Rydym yn llwyr gefnogi’r argymhellion ar gyfer adolygiad, ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi’r gwaith hwn fel rhan o’n haelodaeth o’r Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol.
“Fodd bynnag, mae adolygiad o’r broses Adran 19 yn un rhan yn unig o’r hyn sy’n ddarlun cymhleth iawn wrth ystyried sut rydym yn cynllunio ar gyfer dyfodol gyda mwy o berygl llifogydd. Mae hyn yn golygu cael sgyrsiau anodd a gwneud penderfyniadau cymhleth nawr am sut a ble rydyn ni’n byw ac yn gweithio, gan ystyried perygl llifogydd wrth wneud penderfyniadau cynllunio ar gyfer datblygiadau newydd, a dysgu byw gyda mwy o ddŵr.
“Rydym wedi ymrwymo i gydweithio â Llywodraeth Cymru a’n partneriaid i ddatblygu’r dull cyfannol sydd ei angen, gan gyflawni ochr yn ochr â’n hymrwymiadau presennol i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd, natur a llygredd fel y nodir yn ein cynllun corfforaethol newydd hyd at 2030.
“Dim ond trwy weithio fel hyn y gallwn gyflawni’r math o reoli perygl llifogydd yr ydym ei eisiau ac y gallwn fyw gydag ef, a system sydd wedi’i haddasu’n briodol i’r dirwedd a’r hinsawdd newidiol y byddwn yn eu hwynebu yn y blynyddoedd i ddod.”