Cyfoeth Naturiol Cymru yn Annog Trigolion yng Ngogledd Cymru i Fonitro Rhybuddion Tywydd a Llifogydd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn galw ar drigolion yng ngogledd Cymru i fod yn wyliadwrus a chadw llygad barcud ar ragolygon y tywydd a rhybuddion llifogydd, gan fod disgwyl glawiad sylweddol dros y ddau ddiwrnod nesaf.

Mae’r union leoliadau lle bydd y glaw trymaf yn disgyn yn ansicr, ond fe allai’r glaw trwm arwain at lifogydd mewn rhai ardaloedd.

Mae timau ymateb i ddigwyddiadau CNC yn gweithio gydag ymatebwyr brys eraill ac awdurdodau lleol i gadw pobl ac eiddo'n ddiogel. Mae timau allan yn cadarnhau bod amddiffynfeydd llifogydd mewn cyflwr da, yn clirio gylïau a ffosydd ac yn gosod amddiffynfeydd dros dro lle bo angen i helpu i leihau'r perygl o lifogydd i gymunedau.

Mae pobl yn cael eu hannog i ystyried unrhyw gamau y gallai fod angen iddynt eu cymryd nawr i fod yn barod, ac i gymryd gofal ychwanegol os oes angen i chi deithio:

Dywedodd Aimee Thomas-Owen, Rheolwr Tactegol ar Ddyletswydd CNC: “Rydym yn disgwyl glawiad sylweddol y prynhawn yma (22 Mai) a gyda’r hwyr, felly mae’n bosib y byddwn yn cyhoeddi rhybuddion llifogydd gyda’r nos ac i mewn i oriau mân dydd Iau (23 Mai). Oherwydd hyn, rydym yn gofyn i drigolion gadw llygad am ein rhybuddion llifogydd a negeseuon ‘Byddwch yn barod’, sy’n cael eu diweddaru bob 15 munud.
“Gan y gallai fod llifogydd dŵr wyneb, rydym yn cynghori pobl i gynllunio eu teithiau ac i gael y wybodaeth ddiweddaraf cyn teithio. Mae’n hollbwysig nad oes neb yn ceisio gyrru na cherdded drwy ddŵr llifogydd. Gall grym a dyfnder llifddwr fod yn dwyllodrus ac yn hynod beryglus.”
“Gallai eiddo hefyd fod mewn perygl, felly mae’n bwysig bod pobl yn cadw llygad ar ein diweddariadau ac yn gweithredu yn unol â’r rheini.”