Cyfoeth Naturiol Cymru yn annog gofal yn dilyn Storm Christoph
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn annog pobl i barhau i fod yn wyliadwrus heddiw (21 Ionawr 2021) gan fod rhybudd llifogydd difrifol pellach wedi'i gyhoeddi ar gyfer Gogledd Cymru.
Wrth i'r glaw trwm a achoswyd gan Storm Christoph ymlwybro i ffwrdd o'r DU, gofynnir i bobl fod yn wyliadwrus gan fod disgwyl i lefelau afonydd barhau i ymateb drwy gydol y dydd. Am 13:40pm ddydd Iau, roedd dau rybudd llifogydd difrifol, 26 rhybudd llifogydd a 36 o negeseuon llifogydd - byddwch yn barod yn dal i fod ar waith.
Daw'r rhybudd wedi i'r cyfnod parhaus o law weld yr afon ym Mangor-is-y-Coed yn Wrecsam yn cyrraedd y lefelau uchaf erioed, gan ysgogi rhybudd llifogydd difrifol dros nos ac arwain at gychwyn proses ymgilio ar gyfer trigolion yr ardal.
Gweithiodd staff CNC drwy'r nos gydag asiantaethau partner i gefnogi'r ymgyrch ymgilio ym Mangor-is-y-Coed.
Mae archwiliadau cychwynnol o'r amddiffynfeydd rhag llifogydd ym Mangor-is-y-Coed wedi canfod eu bod mewn cyflwr da; fodd bynnag, ni ellir gwneud asesiad llawn nes i lefelau afonydd ostwng.
Arweiniodd lefelau afonydd cynyddol y bore yma at rybudd llifogydd difrifol pellach ar Afon Dyfrdwy rhwng Llangollen a Dolydd Trefalun, yn enwedig ger Farndon.
Mae CNC yn parhau i fonitro lefelau afonydd yn ofalus ac yn rhybuddio am bosibilrwydd o rybudd llifogydd difrifol pellach ar gyfer Afon Hafren yn Llandrinio yn ddiweddarach heddiw.
Ledled Cymru, mae timau'n gweithio gyda phartneriaid i leihau'r risg i bobl mewn eiddo drwy fonitro lefelau afonydd, gweithredu amddiffynfeydd rhag llifogydd a phympiau, a gosod rhwystrau dros dro lle bo angen i helpu i ddiogelu cymunedau.
Yn ne Cymru, mae archwiliadau ac asesiadau pellach o dirlithriad bach ar ochr y mynydd uwchben Pentre yn Rhondda Cynon Taf hefyd yn cael eu cynnal heddiw gan weithwyr CNC, ochr yn ochr â chontractwyr a swyddogion y Cyngor. Daeth arolygiadau cychwynnol a gynhaliwyd ddydd Mercher (20 Ionawr) i’r casgliad nad oedd bygythiad uniongyrchol i'r ardal leol. Darperir diweddariadau pellach drwy gydol y dydd gyda phobl yn cael eu cynghori i osgoi'r ardal.
Dywedodd Scott Squires, Rheolwr Tactegol ar Ddyletswydd gyda Cyfoeth Naturiol Cymru:
"Mae'r cyfnod parhaus o law trwm a achoswyd gan Storm Christoph wedi effeithio ar ardaloedd ledled Cymru ac rydym yn cydymdeimlo â’r rhai yr effeithiwyd arnynt ar hyn o bryd.
"Wrth i Storm Christoph ddechrau symud i ffwrdd o Gymru, rydym yn annog pobl i fod yn wyliadwrus gan fod disgwyl i afonydd aros ar lefelau uchel heddiw.
"Mae gennym nifer o rybuddion llifogydd ar waith ledled Cymru o hyd ac, er ein bod yn disgwyl i'r rhain ostwng mewn nifer wrth i'r diwrnod fynd yn ei flaen, rydym yn annog pobl i barhau i wrando ar y cyngor sydd ar gael ar ein gwefan, a'r cyngor ar lawr gwlad gan ein cydweithwyr, y gwasanaethau brys, ac asiantaethau partner eraill.
"Cynghorir pobl i gymryd gofal ychwanegol ac i deithio dim ond os yw’n hollol hanfodol gan y gallai rhai ffyrdd fod wedi’u rhwystro am beth amser. Dylid caniatáu amser ychwanegol ar gyfer unrhyw deithiau hanfodol y mae'n rhaid iddynt eu gwneud heddiw, gan y gallai amodau gyrru fod yn beryglus. Dylai pobl hefyd osgoi cerdded neu yrru drwy unrhyw ddyfroedd llifogydd, a chadw draw o afonydd sy'n llifo'n gyflym."
Mae gwasanaeth newydd CNC ar Lefelau Glawiad, Afonydd a’r Môr ar gael ar ei wefan yn ogystal â rhybuddion llifogydd a negeseuon llifogydd - byddwch yn barod, sy'n cael eu diweddaru bob 15 munud. Mae'r rhain ar gael i'w gweld yn https://naturalresources.wales/flooding?lang=cy.
Gallwch hefyd gael gwybodaeth am beth i'w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd ar y wefan yma: https://naturalresources.wales/flooding/what-to-do-before-during-and-after-a-flood/?lang=cy