Cyfoeth Naturiol Cymru i asesu cydymffurfiaeth â hysbysiad gorfodi yn Safle Tirlenwi Withyhedge

Swyddog rheoleiddio CNC yn arolygu yn safle tirlenwi Withyhedge

Bydd swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cynnal cyfres o asesiadau yr wythnos hon i bennu a yw gweithredwr Safle Tirlenwi Withyhedge yn Sir Benfro wedi cwblhau camau penodol i fynd i’r afael â’r problemau arogl parhaus.

Cyhoeddodd CNC Hysbysiad Gorfodi Rheoliad 36 i’r gweithredwr tirlenwi Resources Management UK Ltd (RML) ar 18 Ebrill. Rhaid cwblhau pob un o'r camau a amlinellir yn yr Hysbysiad erbyn diwedd 14 Mai.

Nid yw cyhoeddiad RML ddydd Gwener 10 Mai eu bod yn bwriadu rhoi'r gorau i dderbyn gwastraff dros dro yn y safle tirlenwi o 14 Mai yn wirfoddol yn effeithio ar y terfynau amser a osodwyd yn yr hysbysiad.

Bydd swyddogion tîm rheoleiddio’r diwydiant yn bresennol ar y safle ac mewn cymunedau lleol dros y dyddiau nesaf, gan gynnal asesiadau amrywiol ar y safle a thu hwnt i benderfynu a yw’r holl gamau a nodir yn yr Hysbysiad wedi’u cwblhau’n foddhaol, ac a oes llai o allyriadau aroglau o'r safle.

Bydd swyddogion hefyd yn cynnal archwiliad safle llawn i asesu cydymffurfiaeth â'u trwydded. Unwaith y bydd yr asesiadau hynny wedi’u cwblhau, bydd CNC mewn sefyllfa i weld a yw’r gweithredwr wedi cydymffurfio â holl elfennau’r Hysbysiad Gorfodi Rheoliad 36. Os na chydymffurfiwyd yn llawn â’r Hysbysiad, neu os nodir materion pellach, bydd CNC yn ystyried ei ymateb gorfodi.

Dywedodd Huwel Manley, Pennaeth Gweithrediadau’r De-orllewin, CNC:

“Y dyddiad cau ar 14 Mai yw’r dyddiad olaf i RML Ltd fod wedi cwblhau’r holl gamau y maent wedi’u nodi er mwyn rheoli’r problemau arogleuon yn Safle Tirlenwi Withyhedge.
“Bydd penderfynu a yw’r gweithredwr wedi mynd i’r afael â’r holl gamau a nodir yn ein hysbysiad ac, yn hollbwysig, a ydynt wedi llwyddo i leihau arogleuon ac allyriadau nwyon tirlenwi o’r safle, yn cymryd peth amser.
“Rydym yn deall y teimladau cryf a’r diffyg amynedd cynyddol ymhlith pobl sy’n byw ac yn gweithio yn y cymunedau cyfagos. Hoffem eu sicrhau y bydd ein swyddogion yn canolbwyntio eu hymdrechion ar archwilio’r gwaith a wneir gan RML, ac yn cwblhau asesiadau ar y safle a thu hwnt dros y dyddiau ar ôl y dyddiad cau, a fydd yn cynnwys archwiliad llawn o’r safle'r wythnos nesaf.
"Dim ond pan fydd yr asesiadau hynny wedi'u cwblhau a’r data wedi ei ddadansoddi y byddwn mewn sefyllfa gliriach i benderfynu p’un a gydymffurfiwyd â’r Hysbysiad Rheoliad 36 ai peidio, ac a yw'r camau a gymerwyd gan y gweithredwr wedi gwella'r problemau arogleuon.
“Os na chydymffurfir â’r gyfres o gamau sy’n ofynnol yn yr Hysbysiad hwn, byddwn yn ystyried y camau gorfodi pellach priodol, gan edrych ar yr holl opsiynau sydd ar gael i ni o dan y rheoliadau.
“Tra bod y gwaith brys sydd ei angen ar y gweithredwr yn mynd rhagddo dros y dyddiau nesaf, mae’r safle’n parhau i gael ei archwilio a byddwn yn parhau â’n hymdrechion rheoleiddio.”

Roedd yr arolygiad safle diweddaraf a gynhaliwyd ddydd Mercher 8 Mai wedi'i gynllunio i gyd-fynd â'r terfynau amser yn Hysbysiad Rheoliad 36 ar gyfer cymryd camau penodol. Mae'r rhain yn rhan o'r gwaith ehangach y mae'n ofynnol ei gwblhau erbyn 14 Mai.

Mae'r camau hyn wedi'u gosod er mwyn ceisio mynd i'r afael â ffynonellau'r arogleuon o'r safle. 

  • Mae'r gwaith sy'n gysylltiedig â chapio'r gell wedi parhau yr wythnos hon. Mae hyn wedi gofyn am ymestyn tair ffynnon trwytholchi o fewn y rhan o'r safle tirlenwi sydd heb ei chapio. Am gyfnodau byr bydd angen datgysylltu rhai ffynhonnau trwytholchi dros dro er mwyn caniatáu i waith capio gael ei gwblhau. Lle bo angen gwneud hyn, mae'r gweithredwr wedi cael cyfarwyddyd i ailgysylltu'r ffynhonnau cyn gynted â phosibl.
  • Mae ffynhonnau nwy tirlenwi ychwanegol wedi'u cysylltu â'r rhwydwaith tynnu nwy, sy'n trosglwyddo nwy tirlenwi i'r Gwaith Defnyddio Nwy (GUP). Mae hyn yng nghornel de-orllewinol y safle tirlenwi ac wedi bod yn trin nwy ar y safle ers 2007. Mae gan y safle ddwy injan nwy sy'n cael eu defnyddio i gynhyrchu trydan, sydd wedyn yn cael ei anfon i'r Grid Cenedlaethol. Mae yna hefyd ffagl (flare) fawr, gaeedig a ddefnyddir i drin nwy gormodol. Mae'r Gwaith Defnyddio Nwy wedi'i gynllunio i fod â gallu ychwanegol i drin y nwy a gynhyrchir ar y safle.

Os bydd problemau arogleuon yn bresennol ar ôl 14 Mai, anogir trigolion a gweithwyr yn y cymunedau o amgylch y safle tirlenwi i barhau i adrodd am yr arogl i CNC trwy ein ffurflen adrodd ar-lein neu drwy ffonio 0300 065 3000.