Mwy o rannau o Gymru’n symud i statws sychder
Wrth i amgylchedd naturiol Cymru barhau i ddioddef effeithiau'r cyfnod hir o dywydd sych, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cadarnhau y bydd De-ddwyrain Cymru a rhannau o'r Canolbarth yn symud i statws sychder o heddiw (25 Awst) ymlaen.
Cytunwyd ar y penderfyniad i symud yr ardaloedd hyn o statws cyfnod hir o dywydd sych i statws sychder yn dilyn cyfarfod Grŵp Cyswllt Sychder Cymru lle ystyriwyd goblygiadau ehangach llif isel afonydd a lefelau dŵr daear isel.
Mynegwyd pryderon ynglŷn ag effaith bosibl yr amodau hyn ar gynefinoedd a rhywogaethau Cymru, yn ogystal ag ar ddefnyddwyr dŵr yn yr ardaloedd hyn. Er bo cyflenwadau hanfodol yn dal i fod yn ddiogel, anogir y cyhoedd a busnesau mewn ardaloedd y mae sychder yn effeithio arnynt fod yn dra ymwybodol o’r pwysau sydd ar adnoddau dŵr a dylent ddefnyddio dŵr yn ddoeth.
Dyma'r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt yn y De-ddwyrain a'r Canolbarth:
- Rhannau uchaf Afon Hafren
- Afon Gwy
- Afon Wysg
- Y Cymoedd (Afonydd Taf, Ebwy, Rhymni, Elái)
- Bro Morgannwg (Afon Ddawan)
Daw'r cyhoeddiad yn ystod y dyddiau ar ôl i CNC gadarnhau statws sychder yn Ne-orllewin Cymru ac fel ymateb i'r pwysau y mae tymheredd uchel a diffyg glawiad sylweddol wedi'i roi ar lefelau afonydd, cronfeydd dŵr a'r amgylchedd ar draws Cymru.
Ar 22 Awst, mae Cymru wedi gweld 30.8% o’r glawiad cyfartalog tymor hir ar gyfer mis Awst i gyd (gan amrywio o 15.2% yn Sir Benfro i 53.8% yng Nghonwy). Rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf dim ond 61% o’r glawiad disgwyliedig a gafwyd yng Nghymru gan arwain at y cyfnod pum mis sychaf mewn 40 mlynedd.
Gwelodd ardal reoli sychder De-ddwyrain Cymru CNC 26.3% o’r glawiad cyfartalog misol a gwelodd rannau uchaf Afon Hafren 25.7%.
Tra bo Gogledd Cymru a gweddill y Canolbarth yn parhau i fod yn y statws cyfnod hir o dywydd sych, mae CNC yn parhau i fonitro rhannau eraill o Gymru’n agos lle mae pryderon am lif isel ac am yr amgylchedd yn parhau.
Meddai Natalie Hall, Rheolwr Dŵr Cynaliadwy ar gyfer CNC:
"Mae'r cyfnod hir o dywydd sych a phoeth wedi rhoi ein hamgylchedd naturiol dan bwysau eithriadol.
"Gyda phrinder glawiad sylweddol yn y rhagolygon, a chyda'r effaith mae'r sefyllfa barhaus yn ei chael ar yr union ecosystemau rydym ni i gyd yn dibynnu arnynt, rydym wedi penderfynu symud De-ddwyrain Cymru a rhannau o’r Canolbarth i statws sychder o heddiw ymlaen.
"Gyda De-orllewin Cymru eisoes mewn cyfnod o sychder, rydym yn cadw llygad barcud ar y sefyllfa yng Ngogledd Cymru a gweddill y Canolbarth. Rydym yn parhau i fod mewn cysylltiad rheolaidd â chwmnïau dŵr, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill mewn perthynas ag unrhyw effeithiau sy'n dod i'r amlwg ar yr amgylchedd, amaethyddiaeth, a chyflenwadau dŵr ledled Cymru, ac ni fyddwn yn petruso cyn cymryd unrhyw gamau pellach yn ôl yr angen."
Dros yr wythnosau diwethaf mae CNC wedi bod yn gweithio’n agos hefyd gydag Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr i fonitro effeithiau amgylcheddol trawsffiniol ac i roi ystyriaeth ofalus i unrhyw gyhoeddiadau o sychder mewn ardaloedd sy’n rhychwantu'r ffin rhwng Cymru a Lloegr.
Symudodd Asiantaeth yr Amgylchedd ardal Gorllewin Canolbarth Lloegr i statws sychder yn gynharach yr wythnos hon. O ystyried yr effeithiau gweledol y mae’r tywydd sych wedi ei gael ar afonydd Gwy a Hafren sy’n llifo drwy’r ddwy wlad, penderfynodd CNC hefyd symud ardal Hafren Uchaf Cymru i statws sychder. Bydd CNC ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn parhau i gydweithio i fonitro’r ardal hon yn agos.
Ffordd o gategoreiddio yn bennaf yw newid statws ardal o statws cyfnod hir o dywydd sych i statws sychder i nodi difrifoldeb y sefyllfa yn hytrach na mynnu bod pobl yn cymryd gwahanol gamau gweithredu.
Mae’n golygu y bydd CNC yn dwysáu’r gwaith o fonitro ac ymgysylltu â thynwyr dŵr ac yn parhau i fod mewn cysylltiad agos â Llywodraeth Cymru a’i bartneriaid gyda golwg ar unrhyw effeithiau sy’n dod i’r amlwg ar yr amgylchedd, mordwyaeth, rheoli tir, amaethyddiaeth a chyflenwadau dŵr.
Yn ystod cyfnodau o sychder, gall cwmnïau dŵr hefyd gymryd mesurau i leihau'r galw a gwarchod cyflenwadau lle mae ganddynt ardaloedd lle ceir pryder, fel gwaharddiad Dŵr Cymru ar bibelli dŵr sydd mewn grym ar hyn o bryd yn Sir Benfro a rhannau o Sir Gaerfyrddin. Anogir pobl i barhau i ddilyn cyngor eu cwmni dŵr lleol a rhannu unrhyw bryderon am gyflenwadau dŵr preifat drwy gysylltu â’u hawdurdod lleol.
Ychwanegodd Natalie Hall:
"Er inni brofi rhywfaint o lawiad gwirioneddol angenrheidiol ar draws rhannau o Gymru dros y dyddiau diwethaf, nid yw'r glaw hwnnw wedi bod yn ddigon o bell ffordd i leddfu effeithiau wythnosau lawer o dywydd sych a phoeth. Bydd angen cyfnod hir a sylweddol o law arnom i weld y lefelau yn ein hafonydd a'n cronfeydd dŵr yn codi eto i'r lefelau sydd eu hangen arnom.
"Wrth i newid hinsawdd ddwysáu, mae disgwyl i hafau yn y DU fod yn sychach, a bydd tywydd eithafol yn fwy garw ac yn digwydd yn amlach. Er bod cyflenwadau dŵr hanfodol yn parhau i fod yn ddiogel, mae'n hollbwysig bod pawb yn ystyried yn ofalus sut maen nhw'n defnyddio dŵr dros y cyfnod eithriadol o sych hwn.
"Rydym yn annog pawb i roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau amgylcheddol sy'n gysylltiedig â'r tywydd sych presennol i'n tîm digwyddiadau drwy'r llinell gymorth 24 awr ar 0300 065 3000."