Dirwy i ddyn o Sir Fynwy am ddigwyddiadau llygredd

Llun o slyri mewn cwrs dŵr yn Ton Farm

Mae dyn o Sir Fynwy wedi cael ei orfodi i dalu £4,813 mewn dirwyon a chostau ar gyfer dau ddigwyddiad ar wahân a achosodd lygredd yn nant Wecha, un o lednentydd afon Wysg yn Nhrefynwy y llynedd.

Plediodd Mr Brian Parry o Ton Farm yn euog i ddau gyhuddiad o dan Ddeddf Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 o achosi gweithgaredd gollwng dŵr, sef rhyddhau deunydd gwenwynig neu lygredig, sef slyri a golchion y parlwr godro i ddŵr croyw mewndirol, yn Llys Ynadon Cwmbrân ddydd Iau diwethaf 9 Mai.

Aeth swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i Ton Farm am y tro cyntaf ar 19 Ionawr 2023.

Ar ôl cyrraedd fe welon nhw fod slyri yn gorlifo dros ben un o’r lagwnau slyri â chloddiau pridd ac yn llifo ar draws cae ac i un o lednentydd dienw nant Wecha.

Dangosodd samplau a gymerwyd ac a ddadansoddwyd yn labordy CNC yn Abertawe lefelau sylweddol o amonia a solidau crog yn y cwrs dŵr. Gall hyn effeithio’n negyddol ar bysgod ac infertebratau eraill, gan gau eu tagellau a lleihau lefel y golau sy’n treiddio i’r dŵr.

Pan hysbyswyd Mr Parry am y broblem, cymerwyd camau ar unwaith i atal y gollyngiad a chael gwared ar y slyri o’r storfa slyri â chloddiau pridd.

Ar 14 Medi 2023, aeth swyddogion CNC i'r safle eto, yn dilyn adroddiad ar wahân o lygredd tybiedig i nant Wecha.

Ar ôl ymchwilio, canfuwyd bod draen a oedd yn arwain o'r parlwr godro ar y safle wedi blocio, gan achosi i olchion y parlwr a llaeth orlifo i ddraen dŵr wyneb a oedd yn gollwng i un o lednentydd nant Wecha.

Yn y man lle roedd y draen yn gollwng, roedd yr afliwiad gwyn i'w weld yn glir ac roedd ffwng carthffosiaeth llwyd yn gorchuddio gwely'r nant.  

Dangosodd samplau a gymerwyd gan swyddogion fod y llygryddion wedi cael effaith ar y macroinfertebratau yn y cwrs dŵr am o leiaf 800 metr ac o bosibl hyd at 2.4 km i lawr yr afon.

Mae llaeth yn sylwedd sy'n achosi llawer o lygredd. Bydd bacteria mewn cwrs dŵr yn bwydo ar y llaeth, gan ddefnyddio'r holl ocsigen, a fyddai fel arall yn cael ei ddefnyddio gan bysgod ac anifeiliaid eraill sy'n byw yn y cwrs dŵr. 

Dywedodd Peter Jones, Swyddog yr Amgylchedd gyda Cyfoeth Naturiol Cymru:

Gallai'r digwyddiadau llygredd hyn fod wedi cael effaith ddinistriol ar nant Wecha a dalgylch ehangach Olwy gan arwain at ansawdd dŵr gwael a dirywiad yn ecoleg y cwrs dŵr.
Mae gan slyri lefelau uchel o amonia sy'n wenwynig i fywyd dyfrol a gall ladd pysgod. Gall y gormodedd o faetholion hefyd achosi gordyfiant algâu sy'n effeithio ar ansawdd dŵr a gall arwain at ddirywiad yng ngwerth amwynderol ein cyrsiau dŵr mewndirol.
Gellid bod wedi osgoi'r digwyddiad hwn yn eiddo Mr Parry ac ni ddylai fod wedi digwydd o gwbl.
Rydyn ni'n cydnabod bod pethau'n mynd o chwith weithiau, ond rydyn ni'n annog ffermwyr, os ydyn nhw'n gwybod eu bod wedi achosi llygredd, i roi gwybod i CNC ar unwaith drwy ffonio 0300 065 3000. Po gyntaf y byddwn yn gwybod amdano, y cyflymaf y gallwn weithio gyda nhw i geisio lleihau'r effaith ar yr amgylchedd.

Cafodd Mr Parry ddirwy o £371 a gorchymyn i dalu costau sy'n dod i gyfanswm o £4,442.

Mae Mr Parry eisoes wedi cael ei erlyn gan CNC am droseddau amgylcheddol yn 2010 a 2014 am ryddhau slyri i gwrs dŵr, gan dderbyn dirwyon a chostau o £2,258 yn 2010 a £4,098 yn 2014.

I roi gwybod am ddigwyddiad llygredd, ffoniwch linell gymorth digwyddiadau 24 awr CNC ar 0300 065 3000 neu ewch i dudalen Rhoi Gwybod am Ddigwyddiad CNC.