Ymgyrch newydd i adfywio cynefinoedd gwerthfawr
Mae prosiect cadwraeth i wella rhai o gynefinoedd prinnaf a phwysicaf Cymru yn cychwyn yr wythnos hon.
Bwriad prosiect £4 miliwn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw adfywio cyforgorsydd Cymru – cynefinoedd prin a grëir pan fydd llystyfiant cors yn ffurfio cromen o fawn dros gyfnod o filenia.
Bydd y prosiect yn gwella cyflwr saith o’r safleoedd pwysicaf yng Nghymru.
Mae canrifoedd o dorri mawn a thorri ffosydd wedi eu dirywio.
Ond pan fyddant mewn cyflwr da, gall cyforgorsydd helpu i leihau effeithiau newid hinsawdd trwy storio symiau enfawr o garbon.
Mae’r gwaith i’w hadfer yn cynnwys gwella’r systemau draeniad, torri rhywogaethau goresgynnol a phrysgwydd, a chyflwyniad pori ysgafn – oll mewn partneriaeth â chymunedau lleol, tirfeddianwyr, a chontractwyr.
I nodi’r achlysur, bydd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer yr Amgylchedd a Materion Gwledig, yn ymweld â’r warchodfa natur byd enwog yng Nghors Caron, ger Tregaron, ar ddydd Iau 19 Hydref.
Mae’r safle yma, yn ogystal â Chors Fochno yng ngogledd Ceredigion, dan reolaeth CNC. Dyma’r ddau safle mwyaf yn y prosiect.
Bydd gwaith adfer hefyd yn cael ei gynnal ar safleoedd ger Trawsfynydd, Abergwaun, Crosshands, Crughywel, a Llanfair-ym-muallt.
Ariannir y prosiect pedair blynedd gan nawdd y cynllun EU LIFE a CNC, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, Lelsey Griffiths: “Rwyf wrth fy modd bod CNC wedi llwyddo i dderbyn nawdd y cynllun EU LIFE er mwyn adfer mawndir Cymru.
“Bydd y cynllun uchelgeisiol yn arddangos y buddion hirdymor a ddaw yn sgil adfer mawndir – rhai amgylcheddol, economaidd, a chymdeithasol. Mae’n cyd-fynd â’n Cynllun Adfer Natur yn ogystal â’n hymroddiad i les cenedlaethau’r dyfodol.
“Rydym wedi ymroi i reoli holl fawndir Cymru, a’u cynefinoedd cefnogol, mewn modd cynaliadwy erbyn 2020, gan sefydlu rhaglen integredig er mwyn sicrhau ein bod yn llwyddo i wneud hynny.
“Amcan y prosiect yw gwella statws cadwriaethol oddeutu 690ha o fawndir o fewn saith o gyforgorsydd Cymru. Maent yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, ac ymysg y mawndiroedd pwysicaf yn Ewrop.”
Dywedodd Emyr Roberts, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru: “I rai, nid yw corsydd yn ddim mwy na thirwedd foel ac anial. Ond, mewn gwirionedd, y gwrthwyneb sy’n wir. Gall cors iach gynnig buddion mawr i fywyd gwyllt a phobl.
“Maent yn cynnig lloches i anifeiliaid a phlanhigion prin, gan gynnwys gweirlöyn mawr y waun ac andromeda’r gors. Maent hefyd yn arafu newid hinsawdd trwy storio carbon, ac yn fannau gwych ar gyfer mwynhau natur a’r awyr agored.
Mae’r nawdd yma gan LIFE UE yn ein galluogi i wella cyflwr cyforgorsydd Cymru, gan adael iddynt barhau i greu mawn ac echdynnu carbon o’r aer.
“Bydd budd y gwaith yn parhau ymhell wedi i’r prosiect orffen, gan gael effaith bositif ar genedlaethau’r dyfodol.”