Economi Cymru yn cael hwb yn sgil buddion eang y prosiect mawndiroedd
Mae prosiect adfer mawndiroedd sy’n helpu i fynd i’r afael ag argyfyngau hinsawdd a natur Cymru yn cael effeithiau cadarnhaol ehangach ar economi Cymru, yn ôl adroddiad.
Comisiynwyd yr adroddiad i asesu effaith economaidd-gymdeithasol un o brosiectau Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), sef prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE, a ariennir gan gronfa LIFE yr Undeb Ewropeaidd, a hynny ers i’r prosiect ddechrau ar ei waith i adfer saith safle mawndir pwysig ledled Cymru yn 2018.
O greu swyddi i ddefnyddio cyflenwyr lleol, mae’r adroddiad yn dangos bod y prosiect wedi rhoi hwb o filiynau i economi Cymru ac wedi cyfrannu buddion cymdeithasol sylweddol i gymunedau lleol yn ystod ei oes.
Roedd dangosyddion economaidd yn canolbwyntio ar yr effaith ar yr economi leol a chyflogaeth, tra bod dangosyddion cymdeithasol yn canolbwyntio ar gymunedau lleol, gwirfoddoli ac ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r cynefin.
Mae’r adroddiad yn dangos bod y prosiect, ers 2018, wedi creu gwerth 23 o flynyddoedd o swyddi cyfwerth ag amser llawn o fewn CNC, gan gyfrannu £229,000 y flwyddyn, ar gyfartaledd, i economi Cymru dros y pedair blynedd diwethaf. Bydd y prosiect yn parhau â'r cyfraniad economaidd hwn tan fis Mehefin 2024 yn dilyn cais llwyddiannus am estyniad.
Cyfanswm y gwariant nad yw'n ymwneud â staff dros y cyfnod oedd £2.02 miliwn. Mae hyn yn cynnwys gwariant ar gontractwyr, seilwaith ac offer i gyflawni amcanion y prosiect o adfer cynefinoedd, monitro ac ymgysylltu â'r cyhoedd.
O'r cyfanswm hwn, gwariwyd dros £1.24 miliwn (61%) yng Nghymru, gan gynnwys £652,000 (32%) yn cael ei wario yn yr economi leol (o fewn 10 milltir i safle prosiect). Mae'r gwariant hwn wedi creu gwerth 13.2 o flynyddoedd o swyddi cyfwerth ag amser llawn ychwanegol yng Nghymru o ganlyniad i gyflogaeth gan gontractwyr a chyflenwyr eraill i'r prosiect.
Mae'r prosiect bellach wedi'i ymestyn tan fis Mehefin 2024. Yn gyffredinol, disgwylir i'r buddion economaidd a ragwelir i Gymru fod yn gyfraniad o dros £3.85 miliwn i economi Cymru, gan greu gwerth 94 o flynyddoedd o swyddi cyfwerth ag amser llawn.
Dywedodd Jake White, Rheolwr Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE, “Rydym yn falch iawn gyda chanlyniadau’r astudiaeth hon ac yn ddiolchgar i bawb a gymerodd ran. Mae ein prosiect yn cael effeithiau niferus ac amrywiol, mae’r mwyafrif yn canolbwyntio ar wella’r cynefinoedd, ond mae deall effaith economaidd-gymdeithasol ein gwaith yn ddiddorol dros ben hefyd.”
“Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys astudiaethau achos sy’n dangos bod y prosiect wedi helpu unigolion i gael gyrfaoedd newydd yng Nghymru ac wedi annog busnesau Cymru i fuddsoddi yn nyfodol gwaith adfer mawndiroedd.”
Mesurwyd effeithiau cymdeithasol y prosiect trwy arolygon ar-lein ac wyneb yn wyneb a oedd yn agored i'r cyhoedd, a sgyrsiau ffôn gyda rhanddeiliaid allweddol penodol, fel tirfeddianwyr. Mae’r canlyniadau’n gadarnhaol iawn, gyda 60% o’r cyhoedd yn adrodd effaith amlwg ar eu hymwybyddiaeth o safleoedd y prosiect a’u pwysigrwydd amrywiol.
Dywedodd 80% o ymatebwyr eu bod wedi sylwi ar fuddion personol wrth ymweld â safleoedd y prosiect. Y buddion mwyaf cyffredin a adroddwyd oedd gwell gwybodaeth a dealltwriaeth o gyforgorsydd, eu hanes a’u bywyd gwyllt, a gwell gwerthfawrogiad o werth mawndiroedd.
Dilynwyd hyn gan gysylltiad cynyddol â'u hardal leol, a balchder yn eu gwarchodfa natur leol. Dywedodd 50% o ymatebwyr hefyd fod eu ffitrwydd ac iechyd meddwl wedi gwella.
Dywedodd hanner yr ymatebwyr eu bod wedi gweld gwell cyfleoedd addysg a dysgu ynghylch mawndiroedd, a’u gwerth cadwraeth. Dywedodd 40% o'r ymatebwyr hefyd fod pobl leol yn defnyddio mwy ar safleoedd y prosiect ar gyfer hamdden.
Roedd hyn yn arbennig o berthnasol i'r safleoedd mwy fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron a Chors Fochno, sy'n rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Dyfi, lle mae'r rhan fwyaf o'r gwaith wedi’i gyflawni. Mae'r ymatebion hyn yn awgrymu bod amrywiaeth o fuddion cymdeithasol i'r prosiect.
Yn yr un modd, roedd 100% o’r ymatebwyr yn credu bod y cyforgorsydd yn rhan bwysig o’r dirwedd, gyda 69% o’r ymatebwyr wedi ymweld â naill ai Cors Caron neu Gors Fochno yn y chwe mis cyn yr arolwg. Ysbrydolwyd 42% o’r rhain i ymweld o ganlyniad i ddylanwad y prosiect.
Cyfrannodd gwirfoddolwyr at dros 66 diwrnod (13 wythnos) o wirfoddoli dros gyfnod y prosiect, fodd bynnag mae'r data yn anghyflawn, ac felly mae hyn yn debygol o fod yn amcangyfrif rhy isel.
Digwyddodd y rhan fwyaf o’r gwariant ar gontractwyr (65%) yng Nghors Caron, gydag 20% arall yng Nghors Fochno. Roedd y gweddill wedi'i wasgaru dros y pum safle arall sy'n rhan o'r prosiect.
Ysgrifennwyd yr adroddiad gan Cumulus Consultants, sef cwmni ymgynghori annibynnol sy’n ymchwilio a dadansoddi ar ran y sectorau tir ac amgylchedd, ar y cyd â TACP, sef Cwmni ymgynghori amgylcheddol amlddisgyblaethol sydd wedi’i leoli yng Nghymru.
I ddarllen y crynodeb o’r adroddiad ewch i Cyfoeth Naturiol Cymru / Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE - Gwerthusiad o effeithiau economaidd-gymdeithasol (naturalresources.wales)