Achos llys nodedig: Dyn i dalu am enillion troseddau coedwigaeth am y tro cyntaf yn y DU

Llun o goetir yn 2020 ar ôl cwympo coed

Yn yr hyn y credir ei fod yn gyntaf yn hanes cyfreithiol y DU, bydd arian yn cael ei atafaelu wrth gan dirfeddiannwr o dan y Ddeddf Enillion Troseddau am droseddau ddeddfwriaeth coedwigaeth.

Cwympodd Jeff Lane dros 8 hectar o goetir brodorol yn anghyfreithlon yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr ger Abertawe rhwng Ebrill 2019 a Medi 2020 heb y drwydded briodol.

Ar ôl ei gael yn euog o droseddau coedwigaeth yn Llys Ynadon Abertawe ym mis Ebrill 2022, cafodd Mr Lane orchymyn atafaelu gan y Barnwr am £11,280 o dan y Ddeddf Enillion Troseddau (POCA). Cafodd hefyd ddirwy o £1,500 am ei droseddau.

Roedd troseddau Mr Lane yn ymwneud â chwympo heb drwydded ac am beidio â chydymffurfio â gorfodaeth i ailblannu'r coed hynny.

Apeliodd Mr Lane yn erbyn euogfarn Ebrill 2022 a chafodd ei roi ar brawf eto ym mis Tachwedd 2022 lle cafodd ei ganfod yn euog eto.

Gwnaed y cais am orchymyn atafaelu o dan y POCA ar 14 Mehefin 2024 yn Llys y Goron Merthyr Tudful gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a wnaeth hefyd erlyn Mr Lane am y troseddau coedwigaeth.

Cytunodd y Barnwr gydag asesiad CNC fod Mr Lane wedi elwa'n ariannol o £78,640.68 o'i droseddau. Fodd bynnag, gwnaeth y Barnwr orchymyn atafaelu sy'n gorchymyn i Mr Lane dalu £11,280 fel ei swm sydd ar gael.

Datgelodd ymchwiliadau a gynhaliodd swyddogion CNC yn y gorffennol fod cyfanswm o 8.5 hectar o goetir brodorol a gwlyb – sy’n cyfateb i 12 cae pêl-droed – i’r gogledd o Lanilltud Gŵyr wedi’u cwympo gan Mr Lane heb y drwydded briodol.

Mae coetiroedd brodorol a gwlyb yn gynefinoedd o flaenoriaeth wedi’u rhestru o dan Adran 7 Deddf yr Amgylchedd (Cymru). Cafodd llawer o goed eu codi o’u gwreiddiau a’u difrodi i’r fath raddau fel nad ydynt yn debygol o adfywio. Nododd y swyddogion bod hwn yn un o’r achosion gwaethaf o gwympo coed yn anghyfreithlon iddynt eu gweld ers 30 mlynedd.

Dywedodd Nick Fackrell, Uwch Swyddog Rheoleiddio Coedwig Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i warchod yr amgylchedd naturiol yng Nghymru ac mae hynny’n cynnwys sicrhau y cydymffurfir â rheoliadau coedwigaeth.
“Rydym yn croesawu'r canlyniad ac yn gobeithio bod hyn yn anfon neges glir na fyddwn yn oedi cyn cymryd y camau gorfodi priodol i warchod bywyd gwyllt a’r amgylchedd.
"Mae defnyddio'r Ddeddf Enillion Troseddau i gosbi cwympo anghyfreithlon yn gam beiddgar y gobeithiwn y bydd yn gwneud i bobl feddwl ddwywaith cyn gweithredu'n ddi-hid yn erbyn yr amgylchedd.
“Allwn ni ddim cymryd ein coetiroedd yn ganiataol. Mae trwyddedau cwympo coed yn rhan o’r system sydd gennym ar waith i reoli ein coed a’n coetiroedd yn effeithiol a chynaliadwy, gan eu diogelu a sicrhau eu bod yn parhau i fod o fudd i ni i gyd nawr ac yn y dyfodol.
“Mae gweithredoedd fel y rhain yn tanseilio gwaith ffermwyr, coedwigwyr a rheolwyr tir sy’n gweithio’n gyfreithlon ac yn gynaliadwy i ofalu am ein bywyd gwyllt a chefn gwlad, i dyfu ein bwyd ac i gynhyrchu ein pren.”

I roi gwybod am achos o gwympo coed yn anghyfreithlon, ffoniwch linell gymorth 24 awr CNC ar 0300 065 3000 neu rhowch wybod i ni ar-lein yn Cyfoeth Naturiol Cymru/Rhoi gwybod am ddigwyddiad.