Rheoli traffig ym mis Ionawr er mwyn dod â’r gwaith o sefydlogi llechwedd Ceinws i ben
Bydd gwaith i alluogi symud ffensys diogelwch sydd wedi'u gosod i amddiffyn defnyddwyr ffyrdd rhag y gwaith coedwigaeth uwchben yr A487 yng Ngheinws ger Machynlleth yn cychwyn yn ddiweddarach y mis hwn.
Bydd mesurau rheoli traffig yn cael eu rhoi ar waith er mwyn galluogi symud y ffens ddal yn ddiogel ar 20 Ionawr a bydd hyn ar y gweill tan 14 Chwefror.
Cael gwared ar y ffens ddal fydd cam olaf y gwaith o gwympo coed conwydd ansefydlog a dyfodd yno o'r blaen.
Gosodwyd y ffens ddal er mwyn amddiffyn defnyddwyr y ffordd rhag malurion yn cwympo yn ystod y gwaith peryglus o dorri coed. Fe’i cadwyd yn ei lle hyd nes bod swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn fodlon bod y llechwedd wedi sefydlogi ac nad oedd unrhyw berygl sylweddol y byddai malurion yn cwympo ar y ffordd.
Fel rhan o'r gwaith, cafodd 35,000 o goed llydanddail brodorol eu plannu ar rannau mwy gwastad y safle. Bydd rhywogaethau coed fel y dderwen ddigoes, y ddraenen wen, coed criafol a’r fedwen gyffredin yn troi’r ardal yn hafan i bryfed, adar a mamaliaid bychain fel pathewod. Bydd y cynefin newydd hwn yn cysylltu â chynefinoedd bywyd gwyllt eraill yn Nyffryn Dulas.
Er nad oes unrhyw ailblannu wedi digwydd ar rannau mwyaf serth y llethr, bydd grug a llus yn rhydd i dyfu. Bydd hyn yn gwella bioamrywiaeth leol ymhellach ac yn sefydlogi'r llechwedd ymhellach yn y dyfodol.
Dywedodd Jared Gethin, rheolwr prosiect CNC: “Ar ôl arolygu’r llechwedd, rydym yn fodlon ei bod yn ddiogel cael gwared ar y ffens ddal. Mae'r coed a'r llystyfiant newydd wedi sefydlu’n dda a byddant yn helpu i sefydlogi'r ddaear ymhellach yn y dyfodol.
“Bydd preswylwyr a chymudwyr yn yr ardal yn cofio bod mesurau rheoli traffig wedi bod yn angenrheidiol mewn perthynas â’r gwaith o sefydlogi’r llechwedd er mwyn gosod y ffens ddal cyn dechrau’r dasg o dorri’r coed yn ôl yn 2018. Bydd angen trefniant tebyg er mwyn cael gwared ar y ffens ddal, ac rydym yn obeithiol y bydd y gwaith yn cael ei wneud mewn modd amserol er mwyn sicrhau cyn lleied o aflonyddwch â phosib.
“Dyma’r cam olaf ym mhrosiect BETWS ('Bont Evans Tree Works and Stabilisation'). Mae wedi cymryd 4 blynedd a hanner i’w gwblhau, a hoffwn ddiolch i’r gymuned leol a’r cyngor cymunedol am eu cefnogaeth a’u dealltwriaeth yn ystod y broses hon.”