Ymchwiliad ar y gweill yn dilyn tân ar safle tirlenwi
Mae ymchwiliadau ar y gweill i asesu beth a achosodd dân ar Safle Tirlenwi Chwarel Hafod yn Wrecsam yr wythnos ddiwethaf.
Diffoddwyd y tân, a gychwynnodd nos Fercher diwethaf (27 Mai), gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru (NWFRS) dros y penwythnos. Cafodd y safle ei fonitro ers hynny er mwyn sicrhau diogelwch a lles trigolion lleol.
Meddai Julia Frost, Arweinydd Tîm Rheoleiddio Diwydiant a Gwastraff CNC:
“Roedd hwn yn ddigwyddiad difrifol ac mae swyddogion CNC wedi parhau i weithio’n agos â NWFRS yn dilyn y tân. Byddwn nawr yn ymchwilio mewn i achos y tân.
“Bydd ymchwiliad CNC yn ymchwilio i ba raddau yr oedd y safle’n cydymffurfio â’r drwydded amgylcheddol cyn y tân. Mae Enovert, perchennog y safle, wedi darparu cynllun gweithredu i CNC sy’n amlinellu’r gwaith y maent wedi ei gyflawni ar y seilwaith ers y tân a’r camau ychwanegol sydd bellach mewn lle er mwyn lleihau’r risg o danau yn y dyfodol.”
Meddai Simon Bromley, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:
“Rydym yn gweithio ar y cyd â CNC er mwyn sicrhau na fydd y safle yn derbyn gwastraff ar raddfa fawr hyd nes y byddwn yn fodlon ei bod yn ddiogel gwneud hynny.
“Bydd hyn yn cynnwys sicrhau fod unrhyw seilwaith a ddifrodwyd yn y tân yn cael ei atgyweirio, a bod camau mewn lle i leihau’r risg fod digwyddiad fel hwn yn digwydd eto, cyn belled ag y bo hynny’n rhesymol ymarferol.
“Rhoddodd y tân yma bwysau aruthrol ar ein hadnoddau am gyfnod estynedig, a hynny ar adeg pan ydym yn canolbwyntio ar leihau’r galw - ein bwriad yw sicrhau fod popeth yn cael ei wneud i atal hyn rhag digwydd eto.”
Yn dilyn trafodaethau manwl rhwng CNC, Enovert a NWFRS bydd y safle yn ailagor yr wythnos hon ar gyfer derbyn nifer fach o ffrydiau gwastraff a gytunwyd arnynt ymlaen llaw. Bydd gweithgareddau gwaredu llawn yn ail gychwyn wythnos nesaf, yn amodol ar gydymffurfio â'r Cynllun Gweithredu safle y cytunwyd arno. Ni chaiff y gwastraff ei adneuo yn yr un ardal effeithiodd y tân arni.
Gall unrhyw un sy’n pryderu am yr amgylchedd gysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru drwy ffonio 0300 065 3000, sydd ar agor 24 awr y diwrnod.