Gwella profiad ymwelwyr yng Nghoedwig Clocaenog
Bydd digwyddiad galw heibio cyhoeddus yn cael ei gynnal yn fuan i drafod cynlluniau cynnar i wella'r profiad hamdden ac ymwelwyr a gynigir yng Nghoedwig Clocaenog.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi derbyn cyllid gan brosiect Fferm Wynt Coedwig Clocaenog RWE i’w ddefnyddio ar gyfer gwelliannau hamdden ar draws ardaloedd o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru a reolir gan CNC yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Cynhelir sesiwn galw heibio yn Neuadd Bentref Canolfan Cae Cymro, Clawddnewydd, LL15 2ND ddydd Llun 8 Gorffennaf 2024 rhwng 12pm - 8pm i gynnig cyfle i’r cyhoedd weld syniadau drafft a dweud eu dweud arnynt.
Ar ôl derbyn adborth o'r ymgynghoriad hwn, bydd yr opsiynau a ffefrir yn cael eu cadarnhau yn ystod hydref 2024 gyda gwaith yn dechrau ar ddyluniadau manylach. Nod y rhain fydd gwella cyfleusterau a nodweddion presennol yng Nghoedwig Clocaenog ac o'i chwmpas.
Dywedodd Glenn Williams, Uwch Swyddog Rheoli Tir CNC:
“Rydym wrthi'n drafftio cynlluniau i wella'r hamdden sy’n cael ei gynnig yng Nghoedwig Clocaenog. Megis dechrau y mae’r prosiect ar hyn o bryd.
“Bydd y sesiwn galw heibio yn cynnig cyfle i’r cyhoedd weld a thrafod ein syniadau presennol a dweud eu dweud arnynt. Ein nod yw dathlu bywyd gwyllt a chynefinoedd y safle, a gwella profiad ymwelwyr ar y safle, y llwybrau sydd yno, a chysylltiadau presennol â Rhuthun.
“Os na allwch chi ddod ar 8 Gorffennaf byddwn yn trefnu sesiynau galw heibio yn y dyfodol a gwybodaeth ar-lein wrth i ni ddatblygu’r cynlluniau, gan gynnig cyfleoedd pellach i ddweud eich dweud.”
I gael rhagor o wybodaeth, gallwch e-bostio’r tîm yn uniongyrchol ar landmanagementne@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu ffonio CNC ar 0300 065 3000.