Grŵp i dargedu llosgi bwriadol anghyfreithlon a gyrru oddi ar y ffordd yng Ngogledd Cymru

Bydd sefydliadau o bob rhan o ogledd Cymru yn dod at ei gilydd y penwythnos hwn i dynnu sylw at bwysigrwydd gwarchod rhai o’n tirweddau ucheldirol mwyaf eiconig.

Ar 15-16 Gorffennaf, bydd swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ymuno â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru i ymgysylltu ag aelodau’r cyhoedd ar Fynydd Helygain ac hefyd Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Mynyddoedd Rhiwabon a Llandysilio a Mwynglawdd fel rhan o'r ymgyrchoedd atal tanau bwriadol a gyrru anghyfreithlon oddi ar y ffordd.

Mae tanau gwyllt yn broblem gynyddol ledled Cymru ac yn cael ei chydnabod yn swyddogol fel perygl mawr iawn yn y DU, ac mae wedi’i gynnwys yn y Gofrestr Risg Genedlaethol o Argyfyngau Sifil.

Gall tanau gwyllt ucheldirol gael eu hachosi drwy daflu sigaréts neu ddefnyddio barbeciws tafladwy, llosgi bwriadol, gwydr/poteli wedi’u taflu sydd wedyn yn cynyddu gwres yr haul, a thechnegau rheoli tir fel cynlluniau llosgi rhostir yn mynd allan o reolaeth neu losgi tocion yn rhy agos at lystyfiant rhostir.

Gall gyrru anghyfreithlon oddi ar y ffordd fod yn beryglus i bobl ac i fyd natur. Mae costau glanhau ac adfer dilynol yn sylweddol a gall y niwed a achosir i safleoedd o bwysigrwydd cenedlaethol a safleoedd gwarchodedig fod yn ddinistriol.

Meddai Rhys Ellis, Arweinydd Tîm Amgylchedd CNC:

“Mae tanau gwyllt a gyrru anghyfreithlon oddi ar y ffordd yn yr ucheldiroedd yn berygl aruthrol i bobl, i fywyd gwyllt a’n hamgylchedd.
“Mae’r cynnydd yn y tymheredd a’r cyfnodau hir o sychder a achosir gan yr argyfwng hinsawdd wedi arwain at risg gynyddol o danau gwyllt, felly mae unrhyw losgi bwriadol yn gwaethygu’r tebygolrwydd y bydd hyn yn effeithio ar y cyhoedd a bywyd gwyllt.
“Trwy gydweithio â’n gwasanaethau cyhoeddus ac ymgysylltu â’r cyhoedd rydym yn gobeithio eu haddysgu am beryglon tanau gwyllt a gyrru anghyfreithlon oddi ar y ffordd yn ein hucheldiroedd a’r bygythiad y maent yn ei achosi i’n hamgylchedd.”

Rhagor o wybodaeth am sut y gallwch chi fwynhau ein cefn gwlad yn ddiogel.