Dirywiad pellach ym mherfformiad Dŵr Cymru wedi’i amlinellu yn adolygiad blynyddol CNC

Afon Taf Yng Nghaerdydd

Dŵr Cymru i barhau ar statws dwy seren ond cynyddodd nifer y digwyddiadau llygredd difrifol yn ystod 2023.

Heddiw mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyhoeddi ei adroddiadau perfformiad ar gyfer 2023 ar gyfer y ddau gwmni dŵr sy’n gweithredu yng Nghymru, sef Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy.

Mae’n amlygu’r perfformiad gwaethaf gan Dŵr Cymru yn erbyn y metrigau a fesurwyd yn eu herbyn, sydd wedi’u safoni yng Nghymru a Lloegr.

Bu’r cwmni’n gyfrifol am 107 o achosion o lygredd carthion yn ystod 2023. Cododd nifer y digwyddiadau llygredd difrifol o bump i saith, gan gynnwys digwyddiad mawr yn ymwneud â phibell garthffos a oedd wedi byrstio ar afon Taf ym Mhontypridd ym mis Mawrth y llynedd.

Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at bryderon ynghylch gostyngiad bach ond sylweddol mewn cydymffurfedd â thrwyddedau gollwng dŵr, gan ostwng i 98%.

Gwnaed gwelliannau i nifer yr achosion o lygredd a hunan-adroddwyd i CNC, gan godi i 70% yn ystod 2023, ond methwyd o hyd â chyrraedd y targed lleiafswm o 80%.

Mae disgwyl i gwmnïau dŵr eu hunain roi gwybod i CNC am ddigwyddiadau cyn i eraill wneud hynny. Heb ymateb cyflym, gall effaith llygredd waethygu a gellir colli’r cyfle i roi mesurau lliniaru ar waith.

Er y bydd Dŵr Cymru yn parhau â sgôr dwy seren eleni (cwmni y mae angen iddo wella), mae CNC wedi rhoi rhybudd llym i’r cwmni bod angen iddo droi’r fantol yn erbyn y dirywiad yn nhueddiadau ei berfformiad.

Dywedodd Clare Pillman, Prif Weithredwr CNC:

“Er gwaethaf y pwysau cynyddol gennym ni fel rheoleiddiwr, a chan wleidyddion a’r cyhoedd, mae Dŵr Cymru wedi methu â gwneud y math o welliannau yr ydym yn eu dymuno ac yn disgwyl eu gweld.

“Mae’n annerbyniol ein bod bellach yn gweld cynnydd o flwyddyn i flwyddyn mewn digwyddiadau llygredd sylweddol, ar adeg pan fo cymaint yn cael ei fuddsoddi mewn gwella ein hafonydd ac ansawdd dŵr er budd natur a phobl.

“Mewn ymateb, rydym yn parhau i ddefnyddio’r holl gamau gorfodi sydd ar gael i ni er mwyn ysgogi gwelliannau.  Rydym yn cynnal nifer o ymchwiliadau ffurfiol, gan gynnwys erlyniadau posibl mewn perthynas ag achosion a phroblemau sy’n ymwneud â chydymffurfio â thrwyddedau. Er y gall y prosesau hyn gymryd amser, rydym wedi ymrwymo’n llwyr i’w cwblhau.”

Mae Dŵr Cymru yn darparu dŵr yfed a gwasanaethau carthffosiaeth dŵr gwastraff i’r rhan fwyaf o Gymru, ond mae Hafren Dyfrdwy, sy’n rhan o grŵp Severn Trent, yn darparu gwasanaethau dŵr gwastraff i siroedd sydd ar y ffin yng ngogledd a chanolbarth Cymru.

Oherwydd ei ardal weithredu fach, nid yw Hafren Dyfrdwy yn cael sgôr seren gan CNC, ond defnyddir mesurau tebyg i asesu perfformiad y cwmni.

Ar gyfer 2023, bu cynnydd yn yr achosion o beidio â chydymffurfio â thrwyddedau amod disgrifiadol gan Hafren Dyfrdwy (agweddau megis cynnal a chadw, rheoli ac adrodd) o gymharu â 2022.

Bu’r cwmni’n gyfrifol am un digwyddiad carthffosiaeth lefel isel, ond nid unrhyw achosion difrifol o lygredd.

Ychwanegodd Clare Pillman:

“Er bod gwelliannau i’w gwneud bob amser, rydym yn falch o ddweud bod perfformiad Hafren Dyfrdwy wedi gwella ers y llynedd.

“Hoffem weld y cwmni’n adeiladu ar y cyflawniad hwn ac yn parhau i ysgogi gwelliannau pellach yn ystod cyfnod adrodd 2024.”

Mae CNC ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn adolygu’r fethodoleg ar gyfer adrodd yn flynyddol ar berfformiad cwmnïau dŵr sydd i’w defnyddio ar gyfer data 2026-2030.

Bydd yr adolygiad yn cynnwys cryfhau ac ehangu’r Asesiad o Berfformiad Amgylcheddol presennol er mwyn sicrhau ei fod yn arwain at y newid mwyaf buddiol i’r amgylchedd.

Caiff ymgynghoriad â chwmnïau dŵr a rhanddeiliaid perthnasol eraill ei gynnal dros yr haf.