Hyfforddiant am ddim i addysgwyr ar ymchwilio i droseddau amgylcheddol

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), STEM Learning UK a Techniquest yn cynnig hyfforddiant am ddim a bwrsariaeth gwerth £165 i addysgwyr ym mis Tachwedd eleni i ddeall pwysigrwydd amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd cyrsiau dŵr Cymru.

Mae'r hyfforddiant, "CSI yr Amgylchedd – O safle’r drosedd i’r llys barn: Pwy sydd wedi cyflawni'r drosedd amgylcheddol, ac a allwch chi sicrhau eu bod yn cael eu cosbi?" yn dod â'r Cwricwlwm i Gymru yn fyw drwy ymchwilio i drosedd ffug yn nalgylchoedd afonydd Tywi neu Cleddau.

Yn ystod y gweithdy undydd awyr agored hwn, bydd y rhai sy'n mynychu yn ymgymryd â rôl Swyddog Amgylchedd CNC dan hyfforddiant ac yn casglu tystiolaeth am y drosedd, asesu'r effaith ar yr amgylchedd ac adeiladu achos i fynd â'r troseddwr i'r llys.

Gall addysgwyr ail-greu'r senario gyda'u dysgwyr i ddarparu cyfleoedd dysgu ymarferol bywyd go iawn a fydd yn gwella eu dealltwriaeth o'u dalgylchoedd afonydd lleol a phwysigrwydd eu cadw'n lân ac yn iach ar gyfer bywyd gwyllt.

Meddai Mariella Scott, Cynghorydd Arbenigol: Plant, Addysg, Addysg Gydol Oes a Sgiliau, Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Drwy fynychu ein hyfforddiant senario, bydd addysgwyr yn gweithio drwy weithgareddau cysylltiedig â'r Cwricwlwm i Gymru sy'n eu hannog i fod yn greadigol, meddwl yn feirniadol, datrys problemau, cynllunio a gweithio fel tîm i sicrhau bod cyfiawnder yn cael ei wasanaethu.
"Mae'r hyfforddiant yn rhoi gwerth tymor o weithgareddau ac adnoddau i athrawon a fydd yn eu helpu i fynd â'u dysgwyr allan i’r awyr agored a chael hwyl wrth gyflwyno negeseuon amgylcheddol pwysig."

Meddai Jennifer Morris, Swyddog Addysg, Techniquest:

“Fel athrawon yng Nghymru, ein cenhadaeth yn Techniquest yw tanio brwdfrydedd y genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol STEM drwy sicrhau bod hyfforddiant datblygiad proffesiynol parhaus o safon ardderchog yn cael ei gynnal ym mhob cwr o Gymru.
“Drwy gyfuno ein cenhadaeth â brwdfrydedd i ddiogelu’r amgylchedd naturiol, mae’r cwrs hwn yn gyfle difyr a chyffrous i’n haddysgwyr gryfhau sgiliau STEM eu dysgwyr drwy ddatrys problemau, cynllunio a gwaith tîm.”

Cyflwynir yr hyfforddiant mewn partneriaeth â Phrosiect Pedair Afon LIFE a bydd yn cael ei gynnal yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro ym mis Tachwedd gan ganolbwyntio ar ddalgylch afon pob ardal.

Yn ogystal â bod yn ddigwyddiad rhad ac am ddim, gall athrawon hawlio bwrsariaeth o £165 tuag at gostau trefnu athrawon cyflenwi. Er mwyn cael rhagor o wybodaeth ac i archebu lle, ewch i wefan Stem Learning gan ddefnyddio'r dolenni isod.

Hyfforddiant dalgylch Afon Tywi

Hyfforddiant dalgylch Afon Cleddau