Pedwerydd dyn yn cyfaddef i gamfachu ‘barbaraidd’ yn Afon Llwchwr
Mae dyn a gafodd ei arestio yn Swydd Efrog ar ôl methu ag ateb cyhuddiadau o bysgota anghyfreithlon wedi cael gorchymyn i dalu mwy na £2,200 yn Llys Ynadon Abertawe.
Fe wnaeth Vu Van Ket o Tingley, Wakefield, Gorllewin Swydd Efrog, gyfaddef i ddefnyddio technegau camfachu anghyfreithlon i ddal pysgod yn Afon Llwchwr, ym mis Mehefin 2021.
Gwelodd swyddogion gorfodi Cyfoeth Naturiol Cymru Mr Ket, ynghyd â thri dyn arall, yn defnyddio dull camfachu anghyfreithlon yn fwriadol i ddal gwahanol rywogaethau o bysgod, yn dilyn adroddiadau gan aelodau o'r cyhoedd ynghylch gweithgarwch amheus o dan bont ffordd yr A484 o Gasllwchwr i Lanelli.
Cafodd ddirwy o £400 a gorchymyn i dalu costau o £1,800 a gordal dioddefwyr o £40.
Deliwyd â’r tri dyn arall a gyflawnodd y drosedd gyda Mr Ket gan Lys Ynadon Abertawe ym mis Ionawr.
Methodd Mr Ket ag ymddangos yn y llys ym mis Ionawr a rhoddwyd gwarant ar gyfer ei arestio. Dychwelodd i Swydd Efrog ond cafodd ei arestio a'i gludo i Orsaf Heddlu Leeds ychydig ddyddiau'n ddiweddarach.
Ymddangosodd gerbron Llys Ynadon Abertawe ar 18 Mawrth.
Meddai Mark Thomas, Swyddog Gorfodi Pysgodfeydd gyda CNC:
"Hoffem ddiolch unwaith eto i Heddlu Dyfed Powys, y cymunedau lleol a hefyd i bysgotwyr sy'n cadw at y gyfraith yn yr ardal am eu cefnogaeth barhaus drwy roi gwybod am y gweithgareddau pysgota anghyfreithlon hyn.
“Mae'r dull barbaraidd a chwbl anfoesegol hwn o bysgota sy'n cael ei ddefnyddio gan leiafrif o bysgotwyr yn annethol o ran pa rywogaethau neu faint y pysgod sy'n cael eu lladd ac mae’r llithiau y mae’r pysgotwyr hyn yn ymyrryd â nhw er mwyn eu haddasu yn achosi niwed dychrynllyd i’r pysgod.
"Mae llawer o lithiau pysgota anarferol o fawr a nifer o lithiau â bachyn triphlyg wedi’u hatafaelu; defnyddir y rhain i drywanu pysgod ac achosi niwed dychrynllyd iddynt pan fydd y tri bachyn yn trywanu cnawd y corff ac organau mewnol y pysgod.
"Mae Swyddogion Gorfodi CNC a'r Heddluoedd lleol yn cymryd y digwyddiadau hyn o ddifrif, fel y mae'r llysoedd. Gobeithio y bydd y lleiafrif bach o bysgotwyr a allai ystyried defnyddio dulliau pysgota anghyfreithlon yn y dyfodol yn cymryd sylw o'r dirwyon trwm a gyflwynwyd gan y llysoedd."
Os byddwch yn gweld unrhyw weithgaredd amheus neu anghyfreithlon ar ein hafonydd, rhowch wybod i linell gymorth digwyddiadau CNC ar 0300 065 3000.