Dechrau ar y cam cyntaf tuag at ddatblygu cynllun llifogydd ar gyfer Trefyclo
Mae tîm o Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi dechrau gweithio i gael gwared ar goed a sbwriel sy’n rhwystro llif Afon Tefeidiad ger Trefyclo yng ngham cyntaf y gwaith o leihau effaith llifogydd i'r dref a'r gymuned gyfagos.
Bydd cael gwared ar y rhwystrau yn helpu dŵr i lifo'n fwy rhydd yn yr afon a bydd yn helpu i leihau'r tebygolrwydd tymor byr o brofi llifogydd.
Mis Chwefror 2020 oedd y mis Chwefror gwlypaf erioed yng nghofnodion y Swyddfa Dywydd, wrth i law trwm a Stormydd Ciara, Dennis a Jorge effeithio ar bob rhan o'r wlad, gan arwain at y gyfres fwyaf sylweddol o ddigwyddiadau llifogydd i daro Cymru ers y 1970au.
Profodd llawer o gartrefi a busnesau lifogydd yn Nhrefyclo, ar Afon Tefeidiad yn gynharach yn y flwyddyn wrth i lefelau uchel iawn o law daro'r ardal.
Dywedodd Keith Ivens, Rheolwr Gweithrediadau Perygl Llifogydd a Rheoli Dŵr:
"Cafodd y stormydd eithriadol a brofwyd gennym yn gynharach eleni effaith sylweddol ar lawer o bobl yn Nhrefyclo a'r gymuned gyfagos ac rydym yn cydymdeimlo â’r rhai sy'n dal i deimlo'r effeithiau heddiw. Rydym yn cynnal astudiaeth o lifogydd i geisio deall yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y digwyddiad hwn ac i ystyried pa opsiynau a allai leihau’r tebygolrwydd y bydd hyn yn digwydd eto.
"Wrth i ni fynd i dymhorau'r gaeaf a’r hydref, rydym ar y safle yn cael gwared ar goed a sbwriel sy'n rhwystro llif yr afon ac yn cynyddu'r siawns o ddifrod yn sgil llifogydd. Mae hwn yn waith heriol gan y gall yn aml olygu cael gwared ar goed mawr ac aeddfed sydd wedi syrthio i'r afon. Rydym yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r gymuned am y gwaith sy'n mynd rhagddo a byddwn yn parhau i wneud hynny wrth i'r gwaith barhau.
"Byddwn yn parhau i fonitro a chynnal y rhan hon o'r afon er mwyn gwella llif dŵr yn y cyfamser, ond bydd rhaglen cynnal a chadw perygl llifogydd yn benodol ar gyfer y dyfodol yn rhan o'r astudiaeth tymor hwy i leihau perygl llifogydd yn y dyfodol."
Unwaith y bydd y model a'r gwaith o gasglu tystiolaeth wedi'i gwblhau, bydd swyddogion CNC yn edrych ar opsiynau posibl i leihau'r perygl llifogydd.