Dal yr eog cefngrwm cyntaf yn nyfroedd Cymru ers degawdau
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn annog rhwydwyr a genweirwyr i roi gwybod am unrhyw ddalfeydd anarferol ar ôl i’r eog cefngrwm cyntaf gael ei ddal yn nyfroedd Cymru ers degawdau.
Daliwyd y pysgodyn yn afon Dyfrdwy yng ngorsaf monitro magl bysgod Caer.
Er mai dyma’r achos cyntaf yng Nghymru, rhoddwyd gwybod am achosion o ddal eogiaid cefngrwm yng ngweddill y DU yn 2017.
Cafodd y mwyafrif eu dal yn yr Alban ac oddi ar arfordir gogledd-ddwyrain Lloegr, a bu ambell achos ar wahân ar arfordir gorllewinol y DU.
Dywedodd David Mee, cynghorydd arbenigol arweiniol i CNC:
“Mae’n eithaf anarferol canfod eogiaid cefngrwm yn ein dyfroedd; mae’n bosibl mai dyma’r tro cyntaf i hynny ddigwydd ers tua 30 mlynedd, er bod sawl achos o amgylch y DU ac Iwerddon yn 2017.
“Byddwn yn annog rhwydwyr a genweirwyr i gysylltu â ni os ydynt yn gweld unrhyw eogiaid estron yn y dyfroedd, gan nodi’r dyddiad a’r lleoliad, ac anfon ffotograff, os oes modd, a fyddai’n gymorth mawr inni o ran adnabod y pysgod a datblygu darlun o’r mannau lle y gallent fod.”
Mae’n hollbwysig cael data am achosion o’u gweld er mwyn canfod unrhyw effaith bosibl ar yr amgylchedd lleol ac ar rywogaethau.
Mae eogiaid cefngrwm (Oncorhynchus gorbuscha) yn deillio o ogledd y Cefnfor Tawel.
Mae ymddangosiad y rhywogaeth yn peri pryder oherwydd gall effeithio ar boblogaethau eogiaid a brithyllod môr brodorol Cymru yn y dyfodol.
Nid yw effaith bosibl eogiaid cefngrwm yn glir ar hyn o bryd; fodd bynnag, gall y pysgod hyn gyflwyno parasitiaid a chlefydau nad ydynt i’w cael mewn salmonidau brodorol.
Nid yw’n debygol y bydd rhyngfridio gan fod eogiaid cefngrwm yn silio yn hwyr yn yr haf, ac eogiaid yr Iwerydd yn y gaeaf; fodd bynnag, gall fod cystadleuaeth am fwyd a lle mewn magfeydd rhwng eogiaid ifanc yr Iwerydd ac eogiaid cefngrwm ifanc.
Credir bod y pysgod wedi cyrraedd gogledd Ewrop ar ôl cael eu cyflwyno’n fasnachol i ddyfroedd Rwsia.
Gofynnir i enweirwyr a rhwydwyr sy’n dal eog cefngrwm beidio â’i ddychwelyd i’r dŵr, ac yn lle hynny i’w ddifa heb greulondeb, cofnodi’r dyddiad dal, yr hyd a’r pwysau ac, os oes modd, sicrhau bod y pysgodyn ar gael i CNC er mwyn ei ddadansoddi ymhellach.
Ychwanegodd Dave:
“Cadwch y pysgodyn a pheidiwch â’i ryddhau i’r dŵr (hyd yn oed mewn afonydd sydd ar agor ar gyfer genweirio ‘dal a rhyddhau’ yn unig).
“Os oes modd, tynnwch ffotograff a rhowch wybod eich bod wedi dal y pysgodyn drwy ffonio rhif digwyddiadau 24 awr CNC, sef 03000 653000, a byddwn yn trefnu i gasglu’r pysgodyn.”
Sut i adnabod eog cefngrwm:
Nodweddion eogiaid cefngrwm:
- Smotiau hirgrwn du mawr ar y cynffon
- Cefn glasaidd, ystlysau arian, a bol gwyn
- Cennau llawer llai nag eog yr Iwerydd o’r un maint
- Ceg a thafod tywyll iawn
- 40-60cm o ran hyd
- Mae’r gwrywod sy’n bridio’n datblygu cefn crwm arbennig
Mewn cyferbyniad â hynny, dyma nodweddion arferol eogiaid brodorol yr Iwerydd:
- Dim smotiau ar y cynffon
- Fel arfer yn fwy (hyd at 100cm o ran hyd)
- Ceg a thafod gwelw
- Cennau mwy
- Un neu ddau smotyn du ar orchudd y dagell
- Smotiau ar y cefn, uwchben y llinell ochrol
- Gwaelod cynffon mwy trwchus nag eog cefngrwm