Prif Weinidog Cymru yn ymweld â nythfa gloÿnnod byw prinnaf y DU

Yn ddiweddar, ymwelodd Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru, â nythfa gloÿnnod byw prin ym Mhen-y-bont ar Ogwr, de Cymru, yr olaf o’i bath yn y wlad.

Eluned Morgan, First Minister of Wales, recently visited a rare butterfly colony in Bridgend, South Wales, the last of its kind in the country.

The high brown fritillary, the UK’s most endangered butterfly, has been the subject of several conservation projects in Wales over the years.

The current project is a part of Wales’ flagship species recovery partnership, Natur am Byth (NaB) and aims to work alongside local farmers to help boost the insect's natural habitat.

NaB, funded by The National Lottery Heritage Fund and Welsh Government, works with a range of organisations and charities to help safeguard 67 threatened species across Wales.

The High Brown Fritillary project, along with NaB as a whole, are currently welcoming new volunteers in 2025 to take action for nature. Volunteers will be helping to safeguard important species while gaining valuable work experience in fields like conservation and nature.  

With 11 projects active across Wales, nationally co-ordinated events and learning activities, there are volunteer roles and drop-in sessions to suite any skill levels and backgrounds.

John Clark, Programme Manager for Natur am Byth said:

“The High Brown Fritillary project has made huge strides in safeguarding this rare butterfly, seeing an increase in volunteer led habitat management for the species.

“It was great to have the First Minister take an interest in such an important site and that the brilliant conservation work being done there is getting the limelight it deserves.

“We’re currently accepting volunteers across Wales that have an interest in connecting with nature and working within conservation. This sort of work has an amazing ability to boost our physical and mental wellbeing, so now is the perfect opportunity to volunteer in your patch.”

Alan Sumnall, Butterfly Conservation, Head of Conservation Wales & Northern Ireland said:

"Legacy is crucial to this project to ensure the UK’s rarest butterfly continues to thrive in this special site.  We have fantastic volunteers but many of them have been doing this for years and we need more volunteers to continue their great work.

“We also really want to work with more landowners in this area so we can start expanding the High Brown Fritillary habitat further across this whole region. We are appealing for all local landowners who love nature to get in touch so we can secure the future of these beautiful butterflies and many other wonderful species."

Andrew White, Wales Director for National Lottery Heritage Fund

“Natur am Byth is one of the most ambitious conservation programmes ever undertaken in Wales with their aim to protect and save 67 of Wales’ most vulnerable species.  

Protecting the environment is one of our four investment principles, so nature is at the heart of what we do. It’s wonderful to see the impact of the work of staff and volunteers and witness first-hand what is made possible by National Lottery players."

We welcome everyone to join the Natur am Byth journey – use the #NaturAmByth on your socials to search for volunteering opportunities across our platforms, check out our website or sign up to the programme newsletter to find out more.

Find out more about Butterfly Conservation’s work in Natur am Byth and how to get involved at butterfly-conservation.org/in-your-area/welsh-office/natur-am-byth-high-brown-fritillary-vale-of-glamorgan

-----------------------------------------------------------------------------------------------------------

Prif Weinidog Cymru yn ymweld â nythfa gloÿnnod byw prinnaf y DU

Yn ddiweddar, ymwelodd Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru, â nythfa gloÿnnod byw prin ym Mhen-y-bont ar Ogwr, de Cymru, yr olaf o’i bath yn y wlad.

Mae’r fritheg frown, y glöyn byw sydd fwyaf mewn perygl yn y Deyrnas Unedig, wedi bod yn destun sawl prosiect cadwraeth yng Nghymru dros y blynyddoedd.

Mae’r prosiect presennol yn rhan o bartneriaeth adfer rhywogaethau flaenllaw Cymru, Natur am Byth, a’i nod yw gweithio ochr yn ochr â ffermwyr lleol i helpu i roi hwb i gynefin naturiol y pryf.

Mae Natur am Byth, a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru, yn gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau ac elusennau i helpu i ddiogelu 67 o rywogaethau dan fygythiad ledled Cymru.

Mae prosiect y fritheg frown, ynghyd â Natur am Byth fel cyfanrwydd, ar hyn o bryd yn croesawu gwirfoddolwyr newydd yn 2025 i weithredu dros fyd natur. Bydd gwirfoddolwyr yn helpu i ddiogelu rhywogaethau pwysig wrth gael profiad gwaith gwerthfawr mewn meysydd fel cadwraeth a natur.  

Gydag 11 o brosiectau ar waith ledled Cymru, digwyddiadau a gweithgareddau dysgu a gydlynir yn genedlaethol, mae yna rolau gwirfoddol a sesiynau galw heibio i weddu i unrhyw lefel o ran sgiliau a chefndir.

Dywedodd John Clark, Rheolwr Rhaglen Natur am Byth:

“Mae prosiect y Fritheg Frown wedi cymryd camau mawr i ddiogelu’r glöyn byw prin hwn, gan weld cynnydd mewn rheolaeth cynefinoedd a arweinir gan wirfoddolwyr ar gyfer y rhywogaeth.
“Roedd yn wych gweld y Prif Weinidog yn cymryd diddordeb mewn safle mor bwysig a bod y gwaith cadwraeth gwych sy’n cael ei wneud yno yn cael sylw haeddiannol.
“Rydym ar hyn o bryd yn derbyn gwirfoddolwyr ledled Cymru sydd â diddordeb mewn cysylltu â byd natur a gweithio ym maes cadwraeth. Mae gan y math hwn o waith allu anhygoel i hybu ein llesiant corfforol a meddyliol, felly nawr yw’r cyfle perffaith i wirfoddoli yn eich ardal chi.”

Dywedodd Alan Sumnall, Gwarchod Gloÿnnod Byw, Pennaeth Cadwraeth Cymru a Gogledd Iwerddon:

“Mae etifeddiaeth yn hanfodol i’r prosiect hwn er mwyn sicrhau bod glöyn byw prinnaf y Deyrnas Unedig yn parhau i ffynnu ar y safle arbennig hwn.  Mae gennym wirfoddolwyr gwych ond mae llawer ohonynt wedi bod yn gwneud hyn ers blynyddoedd ac mae angen inni gael mwy o wirfoddolwyr i barhau â’u gwaith gwych.
“Rydym hefyd wir eisiau gweithio gyda mwy o dirfeddianwyr yn yr ardal hon fel y gallwn ddechrau ehangu cynefin y fritheg frown ymhellach ar draws y rhanbarth cyfan. Rydym yn apelio ar bob tirfeddiannwr lleol sy’n frwd dros fyd natur i gysylltu, fel y gallwn sicrhau dyfodol y gloÿnnod byw hardd hyn a llawer o rywogaethau gwych eraill.”

Andrew White, Cyfarwyddwr Cymru ar gyfer Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol

“Mae Natur am Byth yn un o’r rhaglenni cadwraeth mwyaf uchelgeisiol erioed yng Nghymru gyda’r nod o ddiogelu ac achub 67 o’r rhywogaethau mwyaf agored i niwed yng Nghymru.  
Mae diogelu’r amgylchedd yn un o’n pedair egwyddor buddsoddi, felly mae natur wrth wraidd yr hyn a wnawn. Mae’n wych gweld effaith gwaith staff a gwirfoddolwyr a thystio’n uniongyrchol i’r hyn sy’n bosibl gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.”

Rydym yn croesawu pawb i ymuno â thaith Natur am Byth – defnyddiwch #NaturAmByth ar eich cyfryngau cymdeithasol i chwilio am gyfleoedd gwirfoddoli ar draws ein platfformau, edrychwch ar ein gwefan neu cofrestrwch ar gyfer cylchlythyr y rhaglen i ddarganfod mwy.

Dysgwch fwy am waith Gwarchod Gloÿnnod Byw yn Natur am Byth a sut i gymryd rhan yn butterfly-conservation.org/in-your-area/welsh-office/natur-am-byth-britheg-frown-ym-mro-morgannswg