Tân mewn safle tirlenwi
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gweithio gyda phartneriaid a’r gwasanaethau brys heddiw (28 Mai) yn dilyn tân ar safle Tirlenwi Chwarel Hafod, Rhiwabon.
Ar hyn o bryd, cynghorir trigolion lleol i gau eu ffenestri a'u drysau ac i aros y tu mewn yn ystod y digwyddiad hwn.
Mae hwn yn safle a reoleiddir gan CNC, sy'n eiddo i Enovert ac sy'n cael ei redeg ganddo, ac mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru (GTAGC) wedi parhau i fod yn bresennol trwy gydol y nos a'r dydd gydag achos y digwyddiad yn destun ymchwiliad maes o law.
Dywedodd Ann Weedy, sy’n Rheolwr Gweithrediadau ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Ar hyn o bryd, mae ein swyddogion ar y safle i gefnogi GTAGC a byddant yn parhau i fonitro am unrhyw effaith bosibl ar yr amgylchedd lleol neu risg i'r gymuned leol a'r ardaloedd cyfagos.
“Gall tanau gael effaith ddifrifol ar bobl a’r amgylchedd, felly mae’n hanfodol ein bod yn gweithio gyda’n partneriaid amlasiantaethol GTAGC, Heddlu Gogledd Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac Iechyd Cyhoeddus Cymru trwy gydol y digwyddiad i sicrhau bod y tân yn cael ei reoli ac i ddiogelu trigolion lleol. ”
Ychwanegodd Dr Huw Brunt, sy’n Ymgynghorydd Arweiniol ym maes Iechyd Cyhoeddus yr Amgylchedd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Gall mwg lidio llwybrau anadlu, y croen a’r llygaid gan arwain at beswch a thrafferth anadlu, diffyg anadl a phoen yn y frest. Gall pobl ag asthma a chyflyrau anadlu eraill fynd yn sâl oherwydd mwg; dylai'r rhai ag asthma gario eu hanadlydd gyda nhw bob amser.
“Gall aroglau sy’n gysylltiedig â thanau achosi annifyrrwch, straen a phryder, cyfog, cur pen neu bendro. Mae'r rhain yn ymatebion cyffredin i arogleuon, yn hytrach nag i'r sylweddau sy'n achosi'r arogl. Rydyn ni'n gallu canfod arogleuon ar lefelau sy'n llawer is nag sy'n gallu achosi niwed i iechyd.”
Os ydych chi mewn man sydd wedi'i effeithio gan fwg, arhoswch y tu mewn a chadwch ddrysau a ffenestri ar gau pan fydd y mwg yn effeithio arnoch chi, ond agorwch nhw eto i wyntyllu'ch cartref wedi i’r mwg fynd heibio.
Os oes angen i chi fod yn yr awyr agored, ceisiwch osgoi ardaloedd y mae mwg neu ludw yn effeithio arnynt, neu cyfyngwch yr amser rydych chi'n ei dreulio ynddynt. Dylai modurwyr sy'n gorfod teithio trwy'r mwg gadw ffenestri ar gau, diffodd y system aerdymheru a chadw fentiau awyr ar gau.
Dylai unrhyw un sy'n poeni am eu symptomau gysylltu â'u meddyg teulu neu Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47. Mae unrhyw symptomau fel arfer yn diflannu'n gyflym ac ni ddylent arwain at broblemau iechyd hir dymor.