Ailgyflwyno planhigyn arfordirol mewn perygl i ardal gadwraeth yn Ne Cymru

Planhigyn dafol yn cael ei blannu mewn tir gwlyb gan berson yn gwisgo menig

Mae prosiect cydweithredol dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi ailgyflwyno dwsinau o blanhigion Tafol y Traeth prin yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Arfordir Southerndown ar hyd Arfordir Treftadaeth Morgannwg.

Mae Tafol y Traeth yn blanhigyn sydd dan fygythiad yn fyd-eang ac wedi diflannu’n ddiweddar o Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Bae Dwnrhefn, o fewn SoDdGA ehangach Arfordir Southerndown.

Yng Nghymru, fe’i ceir yn unig mewn ardaloedd arfordirol ar Ynys Môn ac yn Sir Benfro ar hyn o bryd, er bod poblogaeth Tafol y Traeth Sir Benfro wedi lleihau yn dilyn stormydd yn 2013 a 2014. Yng ngweddill y DU, fe'i ceir yn bennaf yn Nyfnaint a Chernyw.

Darganfuwyd Tafol y Traeth ym Mae Dwnrhefn ym 1934 a pharhaodd i gael ei gofnodi yno tan 1958. Cafodd ei ailddarganfod ym 1996 a chafodd ACA Bae Dwnrhefn ei dynodi gyda Thafol y Traeth fel rhywogaeth allweddol yn 2004.

Ers hynny, mae Tafol y Traeth wedi diflannu o ACA Bae Dwnrhefn o ganlyniad i erydiad a chwympiadau creigiau sydd wedi gwaethygu yn ystod y blynyddoedd diwethaf oherwydd stormydd amlach a mwy eithafol yn gysylltiedig â newid hinsawdd, ac a welwyd ddiwethaf gan swyddogion CNC yn 2018.

Er bod trafodaeth wedi bod ar gryfhau’r boblogaeth yn y gorffennol, dechreuodd y prosiect hwn edrych ar ymarferoldeb ailgyflwyno Tafol y Traeth yn 2021.

Dewiswyd safleoedd addas, a thyfwyd 60 o eginblanhigion gan Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru o hadau a gasglwyd o blanhigion Dwnrhefn ychydig flynyddoedd yn ôl.

Ar 3 Ebrill, ymunodd Dr Kevin McGinn, Curadur y Banc Hadau a’r Llysieufa ac Ellyn Baker o Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Louise Bebb o Arfordir Treftadaeth Morgannwg â’r arbenigwyr cadwraeth, Julian Woodman, Ryan Paddock, Alexis Alders a Libby Brooks o CNC a dechrau cerdded ar hyd llwybr yr arfordir i'r safleoedd dethol a phlannu'r eginblanhigion yn ofalus.

Meddai Ryan Paddock, Swyddog Cadwraeth CNC ac arweinydd y prosiect:

“Yr ardaloedd cadwraeth gwarchodedig hyn yw’r safleoedd pwysicaf i dreftadaeth naturiol Cymru ac maent yn chwarae rhan bwysig yn ein gwaith i sicrhau adferiad byd natur.
“Mae gennym gyfrifoldeb i warchod statws ffafriol y cynefinoedd a’r rhywogaethau dynodedig hyn. Mae monitro ac ailgyflwyno rhywogaethau, lle bo'n briodol, yn hanfodol er mwyn cyflawni hyn.
“Yn ffodus, cafodd yr hadau o blanhigion Tafol y Traeth Bae Dwnrhefn eu casglu a’u cadw yn y banc cyn i’r rhywogaeth ddiflannu. Cafodd y rhain eu defnyddio wedyn gan Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru i dyfu planhigion newydd ac i atgyfnerthu’r hadau oedd wedi eu storio.
“Bydd poblogaeth Bae Dwnrhefn yn ffynhonnell hadau bwysig ar gyfer ail-gytrefu twyni a childraethau Môr Hafren.
“Rydym wedi cofnodi union leoliadau pob planhigyn gan ddefnyddio dyfeisiau GPS er mwyn gallu eu monitro.
“Rydym yn gobeithio gweld y planhigion hyn yn tyfu ac yn sefydlu o fewn y safleoedd hyn dros y blynyddoedd nesaf ac yn lledaenu i ardaloedd eraill o fewn yr ardal gadwraeth heb ragor o ymyrraeth.”

Mae ailgyflwyno i ardaloedd gwarchodedig yn gofyn am gynllunio gofalus cyn plannu.

Arweiniwyd yr astudiaeth ddichonoldeb i benderfynu a fyddai ailgyflwyno yn bosibl gan Dr Phil Wilson, arbenigwr ar gadwraeth rhywogaethau yn y DU.

Aeth ef ati i archwilio SoDdGA Arfordir Southerndown ar ei hyd am leoliadau addas a chanfod 11 safle a oedd â rhai o'r meini prawf cywir, megis dŵr treigl, tir sefydlog, llystyfiant na fyddai'n mynd yn drech na Dafol y Traeth, a mynediad i'r safle.

O'r 11 safle hynny, roedd dau yn bodloni'r holl ofynion ac fe'u dewiswyd ar gyfer y broses o ailgyflwyno.

Ariannwyd y gwaith gan gronfa Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru - rhaglen dair blynedd sy'n anelu at fynd i'r afael â'r argyfwng natur yng Nghymru trwy gynyddu bioamrywiaeth, gwella cyflwr safleoedd gwarchodedig a gwella gwytnwch a chysylltedd cynefinoedd a rhywogaethau.