Gwaith brys yn dechrau ar geuffos afon yn Ninbych-y-pysgod
Mae gwaith brys yn cael ei wneud gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar geuffos afon yn Ninbych-y-pysgod.
Bydd y gwaith atgyweirio yn atal dŵr sy’n llifo o doriad yng ngheuffos Afon Ritec rhag achosi difrod ecolegol a pherygl i’r cyhoedd.
Bydd contractwyr yn dechrau ar gam archwilio cyntaf y gwaith ddydd Iau 14 Mawrth er mwyn deall maint y broblem.
Daeth CNC yn ymwybodol o’r broblem ddydd Llun 26 Chwefror pan adroddodd aelod o’r cyhoedd fod dŵr yn llifo ar draws y traeth.
Dywedodd Jared Gethin, Swyddog Gweithredol Prosiect, CNC:
“Gall pobl ddisgwyl gweld peiriannau trwm ar Draeth y De, Dinbych-y-pysgod dros y dyddiau nesaf wrth i’n tîm o gontractwyr wneud gwaith archwilio i ganfod prif ffynhonnell y difrod.
“Mae toriad wedi datblygu yn y geuffos, a reolir gan CNC, sy’n cludo Afon Ritec. Mae’r toriad rywle cyn y man ble mae’r geuffos fel arfer yn gollwng i’r môr. Mae’r toriad ar hyn o bryd yn achosi i sianel ffurfio ar hyd y SoDdGA ar Draeth y De, Dinbych-y-pysgod.
“Heb ymyrryd ar frys, mae’r toriad yn peri risg i ecoleg yr ardal, ac i iechyd a diogelwch gyda risg uwch o lifogydd.
“Unwaith y byddwn wedi deall y toriad yn y geuffos yn iawn, bydd wedyn modd i ni ddewis y datrysiad gorau a bwrw ymlaen â’r gwaith atgyweirio ar unwaith.”
Bydd rhai dargyfeiriadau ar waith – a bydd rhaid cau rhai mannau, ym maes parcio Traeth y De ac ar y traeth ei hun, ar brydiau. Mae CNC yn erfyn ar bobl i ddilyn pob cyfarwyddyd er diogelwch pawb.
Mae disgwyl i’r gwaith gymryd rhwng dau ddiwrnod ac un wythnos, yn dibynnu ar ganlyniad y cam archwilio ddydd Iau.
Rhoddwyd y geuffos i mewn yn Afon Ritec yn wreiddiol pan osodwyd y rheilffordd yn y dref.