Rolau deuol yn helpu i warchod yr amgylchedd a'r gymuned
Mae mynd i'r afael â throseddau gwastraff a diffodd tanau yn rhan o waith dyddiol un o weithwyr Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Mae Ricky Hartleb, 39 oed, yn gweithio fel swyddog troseddau gwastraff ac yn ystod y cyfnod hwn mae ar gael fel Diffoddwr Tân ar Alwad i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Mae Ricky, sy’n byw ar Ynys Môn, yn gweithio ym Mangor fel aelod o dîm Cymru gyfan CNC, sy’n ymchwilio i droseddau gwastraff ac yn eu hatal, mewn nifer o feysydd gan gynnwys gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon. Meddai:
“Mae trefniadau gweithio hyblyg CNC yn caniatáu i mi fod ar gael ar gyfer y Gwasanaeth Tân ac Achub yn ystod fy niwrnod gwaith pan fydd yr amserlen waith yn caniatáu, felly gallaf fynychu digwyddiadau os daw galwad tra byddaf wrth fy nesg. Mae hyn yn cynyddu argaeledd cyfarpar tân ym Menllech a Llangefni - rhywbeth yr wyf yn ddiolchgar iawn yn ei gylch.
“Mae yna bartneriaeth naturiol rhwng CNC a’r Gwasanaeth Tân ac Achub, ac mae’r ddau’n rhannu’r un blaenoriaethau o ran gwarchod yr amgylchedd. Mae fy nwy rôl wedi rhoi gwell dealltwriaeth i mi o effaith tanau ar yr amgylchedd, a’r hyn y gall diffoddwyr tân ei wneud i helpu i’w warchod.”
Mae hyfforddiant y Gwasanaeth Tân ac Achub hefyd yn rhoi sgiliau a phrofiadau ychwanegol i Ricky y gall eu defnyddio yn ystod ei swydd bob dydd gyda CNC.
Mae Ricky hefyd ar alwad y tu allan i'w oriau gwaith yn ystod y dydd.
Ychwanegodd:
“Rwy’n gredwr mawr mewn gweithio mewn partneriaeth ac mae cysylltiad naturiol rhwng y ddwy rôl. Fel diffoddwyr tân, mae gennym ddyletswydd gofal i achub bywyd, eiddo a’r amgylchedd ac yn CNC rwy’n rhan o dîm sy’n helpu i warchod yr amgylchedd, gan sicrhau y gellir ei fwynhau am genedlaethau i ddod.”
Yn ystod un digwyddiad, sef tân a fu’n llosgi am hir ar eiddo amaethyddol, mynychodd Ricky fel rhan o ymateb CNC i ddigwyddiad i roi cyngor i'r Gwasanaeth Tân ac Achub ar sut i gyfyngu ar yr effaith ar yr amgylchedd. Yna mynychodd yr un digwyddiad fel diffoddwr tân, gan gymryd drosodd oddi wrth y criwiau a oedd wedi bod yn delio â’r digwyddiad yn gynharach yn y dydd.
Meddai Paul Jenkinson, Pennaeth Ymateb Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:
“Rydym yn ddiolchgar iawn bod gan CNC bolisïau a systemau gwaith hyblyg sy’n caniatáu i bobl fel Ricky gefnogi ein rotâu yn ystod y dydd.
“Mae hefyd yn ardderchog gweld y sgiliau y mae Ricky wedi’u dysgu drwy ei waith fel diffoddwr tân yn cael eu cymhwyso i’w waith gyda CNC. Mae ein diffoddwyr tân yn derbyn hyfforddiant parhaus ac mae’n bosibl trosglwyddo llawer o'r sgiliau a ddysgwyd i'w prif rolau."
Gallwch gofrestru eich diddordeb mewn bod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad yn Recriwtio Ymladdwyr Tân Ar Alwad - Diffoddwyr Tân Ar Alwad - Recriwtio a Swyddi Gwag - Amdanom Ni - Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru (llyw.cymru)