Darganfyddwch ffyrdd rhagorol o fwynhau awyr agored arbennig Cymru y Pasg hwn
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gobeithio ysbrydoli pobl i gamu allan i fyd natur gyda lansiad ffilm newydd sy’n dangos yr amrywiaeth o ffyrdd y gall pobl fwynhau coetiroedd a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol.
O lwybrau beicio mynydd anturus yn erbyn cefndiroedd o goedwigoedd dramatig i deithiau cerdded gogoneddus ar hyd yr arfordir neu yng nghefn gwlad, mae gan CNC amrywiaeth o lefydd i bobl o bob oedran a gallu eu mwynhau.
Meddai Mary Galliers, cynghorydd hyrwyddo mynediad a hamdden CNC:
“Rydyn ni’n gofalu am goetiroedd, Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a llwybrau ar hyd a lled Cymru ble gallwch ddod wyneb yn wyneb â byd natur, cadw’n heini, a rhoi hwb i’ch iechyd a’ch lles.
“Gall ein cyfleusterau i’r teulu, fel llwybrau hygyrch i fygis plant, parciau chwarae a chanolfannau ymwelwyr, helpu i wneud dyddiau allan gyda’r plant yn rhwydd ac yn hwyl dros wyliau ysgol y Pasg.”
Cofnododd CNC dros dair miliwn o ymweliadau â’i goetiroedd a’i warchodfeydd y llynedd, ac mae’n disgwyl i’r nifer hon gynyddu wrth i fwy o bobl chwilio am ddyddiau allan i’w mwynhau yng Nghymru.
Yn sgil y nifer gynyddol o ymwelwyr, mae mwy o angen i bobl fod yn ystyriol o’r amgylchedd a chymunedau lleol.
Ychwanegodd Mary:
“Wrth i’r gwanwyn flaguro ac wrth i ni edrych ymlaen at groesawu mwy o ymwelwyr, mae’n hanfodol bod pawb yn mwynhau’r awyr agored mewn ffordd gyfrifol drwy ddilyn y Cod Cefn Gwlad.
“Mae hynny’n golygu cynllunio ymlaen llaw cyn ymweld fel eich bod chi’n gwybod beth i’w ddisgwyl, dangos parch at bobl eraill, a gwarchod yr amgylchedd naturiol. Rydyn ni’n gofyn i bobl barcio mewn ffordd gyfrifol yn ein meysydd parcio a pheidio â gadael dim sbwriel na baw ci ar eu holau.
“Weithiau mae angen i’n llwybrau neu’n cyfleusterau i ymwelwyr gau ar gyfer gwaith cynnal a chadw. Rydyn ni’n cynghori y dylech edrych ar y dudalen we ar gyfer y lle rydych chi’n ymweld ag e cyn teithio, a dilyn yr holl arwyddion ar y safle er eich diogelwch eich hun.”
Gwyliwch y ffilm newydd ar wefan CNC a dod o hyd i’ch lle chi i fwynhau byd natur.