Adfer afonydd ar frig yr agenda yng nghynhadledd Llandudno
Bydd amrywiaeth o brosiectau sy’n awyddus i ddod â bywyd yn ôl i afonydd Cymru yn cael eu harddangos i gynulleidfa o arbenigwyr o bob cwr o’r DU yn ddiweddarach y mis hwn pan fyddant yn ymgynnull yng Nghynhadledd Rhwydwaith Flynyddol y Ganolfan Adfer Afonydd (RRC) yn Venue Cymru yn Llandudno (24-26 Ebrill).
Mae’r digwyddiad, sy’n cael ei gynnal am y tro cyntaf yng Nghymru, yn gweithio mewn partneriaeth â phrosiect LIFE Afon Dyfrdwy Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a bydd yn tynnu sylw at lwyddiannau niferus y prosiect i adfer afonydd ar hyd afon fwyaf Gogledd Cymru, sef Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Afon Dyfrdwy.
Bydd rhaglen y gynhadledd yn cynnwys dau brif siaradwr a 45 o gyflwyniadau eraill ar bynciau megis gwrthsefyll newid hinsawdd, rheoli graean, adfer pysgod, ymgysylltu â thirfeddianwyr a gwyddoniaeth dinasyddion.
Mae’r RRC ar flaen y gad o ran adfer afonydd, gwella cynefinoedd a rheoli dalgylchoedd ac mae’n darparu cyngor arbenigol ar afonydd yng Nghymru a gweddill y DU.
Mae naw afon ACA yng Nghymru wedi’u dynodi o dan Reoliadau Cynefinoedd 2017 sef: Afonydd Cleddau, Eden, Gwyrfai, Teifi, Tywi, Glaslyn, Dyfrdwy, Wysg a Gwy.
Mae'r afonydd hyn yn cynnal rhywfaint o fywyd gwyllt mwyaf arbennig a phrin Cymru fel yr eog, y fisglen berlog dŵr croyw, cimwch afon crafanc wen a llyriad-y-dŵr arnofiol.
Mae llawer o brosiectau adfer afonydd yn cael eu cynnal ledled Cymru, o Afon Dyfrdwy LIFE yn y gogledd i Brosiect Pedair Afon LIFE yn y de, gyda mwy o brosiectau adfer afonydd ar y ffordd.
Meddai Martin Janes, Rheolwr Gyfarwyddwr y Ganolfan Adfer Afonydd: “Rydym yn falch iawn o gynnal y gynhadledd yng Nghymru am y tro cyntaf ers inni ddechrau cynnal y digwyddiad 25 mlynedd yn ôl. Mae cymaint o brosiectau cyffrous ac arloesol i adfer afonydd yn digwydd yng Nghymru ar hyn o bryd felly mae’n ddewis perffaith. Mae ein cynulleidfa’n cytuno, oherwydd dylai mwy na 400 o bobl ddod draw.”
Meddai Joel Rees-Jones, Rheolwr prosiect Afon Dyfrdwy LIFE : “Mae’r gynhadledd yn gyfle ardderchog i ddangos yr hyn rydym wedi’i gyflawni fel prosiect ac i rannu syniadau a chael cipolwg ar brosiectau eraill sy’n arwain y ffordd o ran adfer afonydd.”
Eleni hefyd cyhoeddir enwau’r rhai a ddaeth i’r brig yn Rownd Derfynol Gwobr Afonydd y DU. Mae'r wobr yn dathlu llwyddiannau'r prosiectau hynny sydd wedi gwella gweithrediad naturiol ac integredd ecolegol afonydd a dalgylchoedd.
Er mwyn cael gwybod mwy ewch i Gynhadledd Flynyddol RRC 2024 | Yr RRC