Y llys yn dyfarnu bod Trwyddedau Cyffredinol CNC yn gyfreithlon
![Cyfoeth Naturiol Cymru logo Cyfoeth Naturiol Cymru logo](https://cdn.cyfoethnaturiol.cymru/media/4997/nrw_logo_cmyk_stack.jpg?center=0.14352941176470588,0.24333333333333335&mode=crop&quality=80&width=770&height=450&rnd=133129796495900000)
Heddiw (18 Ionawr), mae'r Uchel Lys wedi dyfarnu bod Trwyddedau Cyffredinol Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar gyfer rheoli adar gwyllt yn gyfreithlon yn dilyn her gyfreithiol gan y corff ymgyrchu Wild Justice.
Caiff pob aderyn gwyllt ei diogelu gan y gyfraith. Er hynny, o dan rai amgylchiadau lle mae CNC yn fodlon nad oes datrysiad anangheuol boddhaol, yna gellir awdurdodi mesurau angheuol o dan drwydded.
Mae'r penderfyniad heddiw yn golygu y gellir parhau i ddefnyddio'r tair Trwydded Gyffredinol a oedd yn destun yr her gyfreithiol i reoli rhai rhywogaethau adar gwyllt. Maent ar gael er mwyn atal niwed difrifol neu glefyd i gnydau neu dda byw, gwarchod iechyd cyhoeddus a gwarchod rhywogaethau penodol o adar gwyllt.
Dywedodd Ceri Davies, Cyfarwyddwr Tystiolaeth, Polisi a Rhrwyddedu CNC:
Rydym yn falch bod yr Uchel Lys wedi barnu bod ein Trwyddedau Cyffredinol yn gyfreithlon ac mae'r dyfarniad yn cadarnhau ymagwedd gymesur sy'n seiliedig ar dystiolaeth a gymerwyd gan CNC.
"Byddwn yn parhau i adolygu, diweddaru ac asesu ein holl ddulliau trwyddedu ac rydym am wneud hyn yn y ffordd fwyaf cydweithredol posibl gyda'r holl randdeiliaid.
Mae Trwyddedau Cyffredinol 2021 ar wefan CNC a gellir eu lawrlwytho i'w defnyddio. Bydd angen i unrhyw un sy'n bwriadu defnyddio dulliau angheuol i reoli adar nad ydynt yn dod o dan drwydded gyffredinol wneud cais am drwydded benodol.