Cyfnod ymgynghori wedi ei ailagor ar gyfer cais tynnu dŵr Chwarel Gore

Mae ymgynghoriad i gasglu barn ar gais am drwydded tynnu dŵr yn Chwarel Gore ger Llanandras wedi cael ei ailagor oherwydd lefel yr ymateb gyhoeddus.

Dechreuodd y cyfnod ymgynghori ar 5 Ionawr a daeth i ben ar 2 Chwefror, fodd bynnag, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cytuno ar gais gan yr ymgeisydd i ailagor y cyfnod ymgynghori ar ôl gweld y lefel o ddiddordeb cyhoeddus yn lleol. Bydd yr ymgynghoriad a ailagorwyd ar 21 Chwefror nawr yn cau ar 6 Mawrth 2024.

Mae Tarmac Trading Ltd wedi gwneud cais am drwydded tynnu dŵr i'w galluogi i barhau â'u gwaith presennol i echdynnu mwynau yn Chwarel Gore. Maent yn disgwyl y bydd eu gwaith yn golygu eu bod yn cyrraedd y lefel trwythiad wrth iddynt gloddio'n ddyfnach ac y bydd angen iddynt dynnu'r dŵr daear y maent yn dod ar ei draws.

Mae Tarmac wedi gwneud cais am drwydded lawn i dynnu dŵr o'u safle gwaith, ac ar gyfer golchi olwynion ac atal llwch.

Mae'r ymgynghoriad yn gwahodd sylw cyhoeddus ar y cais fel iddo gael ei gyflwyno i CNC. Ar ôl i'r ymgynghoriad ddod i ben, bydd CNC yn ystyried yr adborth o'r ymgynghoriad ac yn cynnal asesiad technegol llawn cyn penderfynu a ddylid rhoi trwydded tynnu dŵr ai peidio.

Dywedodd Ann Weedy Rheolwr Gweithrediadau CNC yng nghanolbarth Cymru: "Mae'n amlwg i ni fod y cais am drwydded i dynnu dŵr yn Chwarel Gore yn bwysig i bobl yn lleol.
"Oherwydd hynny fe wnaethon ni gytuno i ymestyn y cyfnod ymgynghori. Mae hyn yn rhoi mwy o gyfle i bobl ddarllen dogfennau'r cais a rhoi eu barn."

Gellir gweld dogfennau'r cais ar gofrestr gyhoeddus ar-lein CNC, neu gellir gofyn am gopi o'r wybodaeth gan CNC. Efallai y bydd y cais hwn yn cymryd amser i'w brosesu ac efallai y codir tâl.

Gellir anfon ymatebion i'r ymgynghoriad a cheisiadau am y dogfennau cais at permittingconsultations@naturalresourceswales.gov.uk. Gellir gwneud ceisiadau am y dogfennau cais hefyd drwy ffonio 0300 065 3000.