Ymgynghori ar gynllun i reoli coedwig ym Mawddach ac Wnion
Gofynnir am farn aelodau’r cyhoedd ar reolaeth coedwig yng Ngwynedd at y dyfodol.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn y broses o adolygu ei Gynllun Adnoddau Coedwig ar gyfer Mawddach ac Wnion ac mae’n gofyn i aelodau’r cyhoedd a rhanddeiliaid am eu barn.
Bydd y cynllun yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r gwaith o gyflawni rheolaeth goedwig gynaliadwy CNC ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru ac mae’n nodi amcanion hirdymor.
Mae'r ymgynghoriad ar y cynllun drafft yn cael ei gynnal fel rhan o broses ardystio Cynllun Sicrwydd Coetir y Deyrnas Unedig er mwyn sicrhau bod safbwyntiau ynghylch rheolaeth ac amcanion yn y dyfodol yn cael eu hystyried.
Cynhelir yr ymgynghoriad rhwng 13 Mawrth a 14 Ebrill.
Bydd sesiwn galw heibio cyhoeddus yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Hamdden Glan Wnion, Dolgellau, rhwng 2pm a 7pm ddydd Mercher, 29 Mawrth.
Dywedodd Justin Hanson, Arweinydd Tîm Pobl a Lleoedd CNC yng Ngogledd Orllewin Cymru:
“Rydym yn gweithio i sicrhau rheolaeth goedwig gynaliadwy drwy’r cynllun hwn ac rydym yn awyddus i gynifer o bobl â phosibl gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.
“Rydym eisiau clywed gan aelodau’r cyhoedd a rhanddeiliaid am eu barn ar ein cynllun drafft, a fydd yn cwmpasu cyfnod o ddeng mlynedd.
“Mae pawb yn elwa o goedwig sy’n cael ei rheoli’n dda; mae’n darparu mannau gwyrdd i bobl eu mwynhau mewn modd cyfrifol, pren cynaliadwy, mae’n dal a storio carbon ac mae o fudd mawr i fioamrywiaeth leol.”
I gael rhagor o wybodaeth ewch i Cynllun Adnoddau Coedwig Mawddach ac Wnion - Natural Resources Wales Citizen Space - Citizen Space (cyfoethnaturiol.cymru)